Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Lewis Howell

Mater o Bwys 1

Disability rights / Hawliau Anabledd

Mater o Bwys 2

NHS for young people / Y GIG i bobl ifanc

Mater o Bwys 3

Sport for all / Chwaraeon i bawb

CANDIDATE STATEMENT

I want to improve Wales for young people and give them the platform to achieve their dreams and aspirations. I have a disability called Charcot-Marie-Tooth so it is a priority for me to promote disability awareness in Wales and be an advocate for young people living with a disability. My position as a school prefect and member of the school council allows me to communicate and engage with members of my school community. My role on the Vale Youth Council and membership of numerous sports clubs enables me to engage with my wider community.
I would be a good Youth Parliament Member as I am an effective communicator and love listening to people's experiences and opinions. Whilst on the Vale Youth Council I have managed to combine ambition with realism to get things achieved.
My numerous operations and ongoing rehabilitation means I show resilience and perseverance when challenges arise, this also helps with being a Cardiff City supporter!

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i eisiau gwella Cymru i bobl ifanc a rhoi llwyfan iddynt gyflawni eu dymuniadau a dyheadau. Mae gen i anabledd o’r enw Charcot-Marie-Tooth, felly blaenoriaeth i mi yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o anableddau yng Nghymru ac eirioli dros bobl ifanc sy’n byw ag anabledd. Mae fy rôl fel prif ddisgybl yn yr ysgol ac aelod o’r cyngor ysgol yn fy ngalluogi i gyfathrebu ac ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned ysgol. Mae fy rôl ar Gyngor Ieuenctid y Fro a’r ffaith fy mod yn aelod o sawl clwb chwaraeon yn fy ngalluogi i drafod gyda’r gymuned ehangach. Bydden i’n aelod da o’r Senedd Ieuenctid gan fy mod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ac wrth fy modd yn gwrando ar brofiadau a barn pobl eraill. Wrth fod yn aelod o Gyngor Ieuenctid y Fro, rydw i wedi gallu cyfuno uchelgeisiau a bod yn realistig i gyflawni pethau. Mae’r llawdriniaethau a’r cyfnodau adfer rydw i wedi’u profi yn arddangos pa mor wydn ydw i, a phenderfynol pan fo heriau’n codi, mae hyn yn help mawr hefyd wrth gefnogi tîm pêl-droed Dinas Caerdydd!