Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Phoebe Bond

Mater o Bwys 1

Welsh 2nd Language Education / Addysgu Cymraeg fel Ail Iaith

Mater o Bwys 2

Increase Mental Health Support / Gwella Cymorth Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 3

Invest in Further Education / Buddsoddi i Addysg Bellach

DATGANIAD YMGEISYDD

It is impossible not to be political when politics controls the nature of the world we live in. As a young person it is vital that our voices are heard within politics where decisions that will affect our future are made. Thus, I have decided to run for the Welsh Youth Parliament.
I am a strong advocate for young people like myself. If I am elected I will ensure everyone's voices are listened to and acted upon. Young people in my constituency can trust me to communicate their wishes. If you vote for me I will advocate for reform of welsh second language education so our language is more widely used, fluency is increased, and it is not forgotten when we leave education. If you vote for me I will ensure our mental health services are developed and funded so proper support is widely accessible. If you vote for me I will champion further educational opportunities and inquire into the investment in Welsh universities. Vote for me for meaningful change. Your voice matters: I will listen.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae’n amhosibl peidio bod yn wleidyddol pan fo gwleidyddiaeth yn rheoli natur y byd o’n cwmpas. Fel person ifanc, mae’n hanfodol bod ein lleisiau’n cael eu clywed mewn gwleidyddiaeth lle bydd y penderfyniadau a wnaed yn effeithio ar ein dyfodol. Felly, rydw i wedi penderfynu sefyll fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Rydw i’n eiriolwr cryf dros bobl ifanc fel fi. Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod llais pawb yn cael ei glywed a’i weithredu. Gall pobl ifanc yn fy etholaeth ymddiried ynof fi i gyfathrebu eu dymuniadau. Os byddwch chi’n pleidleisio drosof fi, byddaf yn gwneud yn siŵr i eirioli dros ddiwygio addysgu Cymraeg fel ail iaith fel bod yr iaith yn cael ei defnyddio’n fwy helaeth a rhuglder ar i fyny, ac nad yw’n cael ei hanghofio pan fyddwn yn gadael addysg. Os byddwch yn pleidleisio drosof fi, byddaf yn hyrwyddo cyfleoedd addysg bellach ac yn holi am fuddsoddiad i brifysgolion Cymru. Pleidleisiwch drosof fi i gael newid ystyrlon. Mae eich llais yn bwysig: byddaf yn gwrando.