Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Marged Evans

Mater o Bwys 1

Food / Bwyd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

The Welsh language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

I am passionate about our country and I would like to do everything I can to make it better. If elected, I will hold sessions with children from my school and the wider community to listen to their ideas. I believe that I am a very empathetic person who can, therefore, sympathise with people. I understand that there are two sides two every debate, so I will strive to ensure that everyone is supported. I have firm ideas about the changes I would like to see in our community and in the world. I play for netball teams outside school, so I am use to co-operating with others and I am able to commit to the task at hand. I have also completed the Duke of Edinburgh Award, which provided opportunities to support my community by leading children’s clubs, to persevere on a long journey and to collaborate effectively.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae gen i angerdd ar gyfer ein gwlad ni ac fe hoffwn wneud popeth y gallaf er mwyn ei wella. Os caf fy ethol, byddaf yn cynnal sesiynau gyda phlant o’r ysgol a’r gymuned ehangach er mwyn gallu gwrando ar eu syniadau. Yn fy marn i, rydw i’n berson empathetig iawn ac felly yn gallu cydymdeimlo â phobl. Rydw i’n gallu deall 2 ochr i bob dadl ac felly am geisio sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi. Mae gen i syniadau cadarn am beth hoffwn weld yn newid yn ein cymuned ac yn y byd. Rydw i’n chwarae i dimau pêl rhwyd tu allan i’r ysgol sydd wedi rhoi sgiliau cydweithio i mi a hefyd y gallu i ymrwymo yn llwyr. Rydw i hefyd wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin sydd wedi fy ngalluogi i gefnogi fy nghymuned leol drwy arwain clybiau plant, i ddyfalbarhau ar daith hir a chydweithio yn effeithiol.