Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Alice-Rose Owen-Handley

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 3

Healthcare / Gofal iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a member of the Youth Parliament as I am passionate about making a positive impact for my community and I am driven to make changes as the smallest change can have a massive impact. I will consult young people hearing their voice in Prestatyn youth club or in Prestatyn High School. I believe people should vote for me as I want to hear what matters to young people whether its education, healthcare, mental health services or the environment, I am not the person to sit around and wait for things to happen I feel passionate and dedicated about things that affect my community. My communication is essential to this as if there is no communication going on things that matter will not get done, also problem solving as somethings may not have a straight solution, so it is important for things to find another way around the problem.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid gan fy mod yn angerddol am gael effaith gadarnhaol ar fy nghymuned, ac rwy’n cael fy ysgogi i wneud newidiadau, gan y gall y newid lleiaf gael effaith enfawr. Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc, gan glywed eu lleisiau yng nghlwb ieuenctid Prestatyn neu yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Rwyf o’r farn y dylai pobl bleidleisio drosof gan fy mod eisiau clywed beth sy’n bwysig i bobl ifanc, boed yn addysg, gofal iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl neu’r amgylchedd. Dydw i ddim yn berson sy’n eistedd ac aros i bethau ddigwydd, rwy’n teimlo’n angerddol ac ymroddedig ynghylch pethau sy'n effeithio ar fy nghymuned. Mae cyfathrebu ar fy rhan yn hanfodol i hyn oherwydd os nad oes yna gyfathrebu, ni fydd pethau o bwys yn cael eu gwneud. At hynny, mae datrys problemau’n bwysig, oherwydd efallai nad oes ateb syml i rywbeth, felly mae'n bwysig dod o hyd i ffordd arall o ddatrys y broblem.