Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Isabella May Brown

Mater o Bwys 1

Climate change / Newid hinsawdd

Mater o Bwys 2

Medical conditions in schools / Cyflyrau meddygol mewn ysgolion

Mater o Bwys 3

11-16 school curriculum / Cwricwlwm ysgol 11-16

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Isabella Brown, and this is why I am needed in the Welsh Youth Parliament. First of all, I’m a self-driven and determined 15-year-old who wants to make a difference. I believe that the young people of Wales are incredibly important because we are the future. I would love to be a member of the Youth Parliament because I’m desperate to represent the children of Wales and give them a say in various ongoing issues that can potentially affect us. At just 7 years old, I won a public speaking award for a speech about the Amazon Rainforest. I also performed in the Urdd Eisteddfod for 5 consecutive years from 2015 to 2020. To this day, I am confident speaking in front of crowds and sharing my ideas. This year, I met with the Children’s Commissioner for Wales to discuss the challenges children with medical conditions face in schools. This experience has motivated me to want to play a part in improving Wales as a country. Vote for me and I will give the young people of Wales a voice!

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Isabella Brown, a dyma pam mae fy angen yn Senedd Ieuenctid Cymru. Yn gyntaf oll, rwy'n berson 15 oed sy'n hunan-ysgogol a phenderfynol, sydd am wneud gwahaniaeth. Rwyf o’r farn bod pobl ifanc Cymru yn hynod o bwysig, oherwydd ni yw’r dyfodol. Byddwn wrth fy modd i gael bod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd fy mod yn ysu i gynrychioli plant Cymru, a rhoi llais iddyn nhw mewn amrywiol faterion sy’n mynd rhagddynt, a all effeithio arnom ni. Yn ddim ond 7 oed, enillais wobr siarad cyhoeddus am araith am Goedwig Law’r Amazon. At hynny, perfformiais yn Eisteddfod yr Urdd am 5 mlynedd yn olynol o 2015 i 2020. Hyd heddiw, rwy'n hyderus yn siarad o flaen torfeydd ac yn rhannu fy syniadau. Eleni, fe wnes gyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru i drafod yr heriau y mae plant â chyflyrau meddygol yn eu hwynebu mewn ysgolion. Mae’r profiad hwn wedi fy ysgogi i fod eisiau chwarae rhan mewn gwella Cymru fel gwlad. Pleidleisiwch drosof fi, a byddaf yn rhoi llais i bobl ifanc Cymru!