Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Joel Joseph Davies
The NHS A&E waiting lines / Amseroedd aros y GIG, Damwain ac Argyfwng
School education / Addysg ysgol
Lower the crime rate in wales / Gostwng y gyfradd droseddu yng Nghymru
I love wales and everything about it, the language, the agriculture, the stories and most of all, the people. I can connect with the youth really well because I know what all there problems are, I could connect with them, solve their problems and make wales even better. I think the Welsh language is key because it is our native language and if we don’t learn it, it will die off but we don’t want that so let’s make it fun so people actually want to learn it. So vote for me to solve your problems.
Rwy’n caru Cymru a phopeth amdani, yr iaith, yr amaethyddiaeth, y straeon ac yn fwy na dim, y bobl. Gallaf ymgysylltu’n dda iawn â phobl ifanc, oherwydd gwn beth yw eu holl broblemau. Gallwn gysylltu â nhw, datrys eu problemau a gwneud Cymru hyd yn oed yn well. Rwyf o’r farn bod y Gymraeg yn allweddol, achos mae hi'n iaith frodorol i ni ac os na fyddwn ni'n ei dysgu fe fydd hi'n marw, ond dydyn ni ddim eisiau hynny, felly gadewch i ni ei gwneud yn hwyl, fel bod pobl wir eisiau ei dysgu. Pleidleisiwch drosof fi, felly, i ddatrys eich problemau.