Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Zac Huxley-Sullivan

Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

I will be a good Welsh Youth Parliament member because I believe everyone has a voice and, that the young people of Wales should be heard.
The NHS in Wales is very important to me as I along with many others across the country experiencing long waiting times in A&E.
I want to make swimming and gym access free for all under 18s to help tackle obesity as these activities should be accessible to all.
I believe we should drop unneeded foreign languages from the curriculum for years 7,8 & 9. These non-essential lessons could be replaced with life skills including money management and how to prepare for your future. I also would the school week to change to a 4-day week to help relieve stress which would improve mental health and grades.
I would like to improve mental health support for young people with better mental health awareness in schools with posters for drop-in sessions where students can speak to a professional.
Please vote for me at the Senedd Welsh Youth Parliament election.

DATGANIAD YMGEISYDD

Byddaf yn aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf o’r farn bod gan bawb lais, ac y dylai pobl ifanc Cymru gael eu clywed.
Mae’r GIG yng Nghymru yn bwysig iawn i mi gan fy mod, ynghyd â niferoedd eraill ledled y wlad, yn profi amseroedd aros hir yn yr adran Damwain ac Argyfwng.
Rwyf am i nofio a mynediad i'r gampfa fod yn rhad ac am ddim i bawb dan 18 oed, er mwyn helpu i fynd i'r afael â gordewdra. Dylai'r gweithgareddau hyn fod yn hygyrch i bawb.
Rwyf o’r farn y dylem hepgor ieithoedd tramor diangen o'r cwricwlwm ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9. Gallai'r gwersi hyn, nad ydynt yn hanfodol, gael eu disodli gan sgiliau bywyd gan gynnwys rheoli arian, a sut i baratoi ar gyfer eich dyfodol. At hynny, byddwn yn newid hyd yr wythnos ysgol i 4 diwrnod, er mwyn helpu i leddfu straen, a fyddai'n gwella iechyd meddwl, a graddau.
Hoffwn wella cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc â gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn ysgolion, gyda phosteri ar gyfer sesiynau galw heibio lle gall myfyrwyr siarad â gweithiwr proffesiynol.
Pleidleisiwch drosof fi yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru Senedd.