Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Kian Patrick Woodworth

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Food / Bwyd

Mater o Bwys 3

Mental health services / Gwasanaethau iechyd meddwl

CANDIDATE STATEMENT

I would like to be apart of the Welsh Youth Parliament to help with the three main key issues I feel strongly with as stated above. I'm currently in year 10 and The Vice chair of the school council and speak to pupils during school assembly, visit the form classes and have monthly meetings. Also there is a suggestion box for pupils opinions.
I feel people should vote for me so I can help make the changes to what everyone wants for a better future in Wales.
With my experience being the school vice chair I feel I can bring my skills of listening to what people want and consolidate everyone's opinion for the need's of next generation of Clwyd West.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru i helpu gyda’r tri phrif fater allweddol yr wyf yn teimlo’n gryf yn eu cylch, fel y nodwyd uchod. Rydw i ym mlwyddyn 10 ar hyn o bryd ac yn Is-gadeirydd y cyngor ysgol, ac yn siarad gyda disgyblion yn ystod gwasanaeth yr ysgol, yn ymweld â’r dosbarthiadau ac yn cynnal cyfarfodydd misol. At hynny, mae blwch awgrymiadau er mwyn ceisio barn disgyblion.
Rwy’n teimlo y dylai pobl bleidleisio drosof fel y gallaf helpu i wneud y newidiadau i’r hyn y mae pawb ei eisiau ar gyfer dyfodol gwell yng Nghymru.
Yn sgil fy mhrofiad fel is-gadeirydd yr ysgol, teimlaf y gallaf ddod â'm sgiliau gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau, a chydgrynhoi barn pawb o ran anghenion cenhedlaeth nesaf Gorllewin Clwyd.