Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Rae Carter

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Youth Mental health service / Gwasanaeth Iechyd Meddwl Ieuenctid

Mater o Bwys 2

Social and Political Education / Addysg Gymdeithasol a Gwleidyddol

Mater o Bwys 3

Youth Homelessness / Digartrefedd Ieuenctid

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be in the Welsh youth parliament because I want to make a change. I am passionate about improving services for young people in Wales. Through my own experiences with mental health and homelessness it is important to me to be in a position where I can represent other people like me whos voices may not be heard. I have had the opportunity to sit on my school council and am a member of my local authorities youth forum and would now like to take on the challenge of representing my constituency. I have excellent listening skills and I am able to talk in front of large groups of people. I am empathetic and courageous which will help me to tackle issues that matter. I am able to use my school and youth forum to consult with people and would like to use the power of social media to ensure all voices in my constituency are heard. People should vote for me because I am confident that I can improve youth services in Torfaen and am strong advocate for change for the better .

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau newid pethau. Dw i’n angerddol dros wella gwasanaethau pobl ifanc yng Nghymru. Drwy fy mhrofiadau fy hun gydag iechyd meddwl a digartrefedd, mae’n bwysig i mi fod mewn sefyllfa lle dw i’n gallu cynrychioli pobl ifanc fel fi sydd ddim bob amser yn gallu codi llais. Dw i wedi cael cyfle i fod ar y cyngor ysgol ac yn aelod o fforwm ieuenctid yr awdurdod lleol. Dw i hefyd eisiau taclo’r her o gynrychioli fy etholaeth. Mae gen i sgiliau gwrando ardderchog a dw i’n gallu siarad o flaen grwpiau mawr o bobl. Dw i’n gallu dangos empathi ac yn ddewr hefyd, a bydd hyn yn fy helpu i daclo materion pwysig. Dw i’n gallu defnyddio fy fforwm ysgol ac ieuenctid i gysylltu â phobl a dw i eisiau defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod pob llais yn fy etholaeth yn cael ei glywed. Dylai pobl bleidleisio drosof fi oherwydd dw i’n hyderus fy mod i’n gallu gwella gwasanaethau ieuenctid yn Nhorfaen, a dw i’n eiriolwr cryf dros newid er gwell.