Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ffion Grace Lewis

Mater o Bwys 1

Youth wellbeing and skills / Lles a sgiliau pobl ifanc

Mater o Bwys 2

Intergenerational connections / Cysylltiadau rhwng cenedlaethau

Mater o Bwys 3

Smarter finance management / Rheoli arian yn gallach

CANDIDATE STATEMENT

Welsh youth have power.
In school council I help bring all cultures and backgrounds together, which enables us to get the best ideas and better solutions. If elected I would create links with schools throughout the region and connect with people across my sport and musical passions.
In Wales there are few places for young people to be social and get together in evenings. Regional hubs would provide young people a safe place to build social networks and a place to learn essential life skills.

In 2026 the elderly (60+) will represent nearly a third of Welsh citizens. Our generation can volunteer to connect with the elderly to tackle the loneliness many feel while also benefiting from their experiences.
Understanding bank accounts, household finances, loans & mortgages are essential for a successful life and should be integrated into PSHE so our generation to take their first steps in a career and avoid unnecessary debt.
Welsh youth have power and I would love to represent your voice.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae gan bobl ifanc Cymru bŵer. Yn y cyngor ysgol, dw i’n helpu i ddod â diwylliannau a chefndiroedd at ei gilydd, er mwyn i ni allu cael y syniadau a’r atebion gorau. Os caf fy ethol, dw i’n mynd i greu cysylltiadau gydag ysgolion yn y rhanbarth a chysylltu pobl ar draws fy niddordebau chwaraeon a cherddoriaeth.
Does dim llawer o leoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu gyda’r nos. Dw i’n credu byddai hybiau rhanbarthol yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael lle diogel i greu rhwydweithiau cymdeithasol a lle i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol.

Yn 2026, bydd yr henoed (60+) yn cynrychioli bron traean o bawb yng Nghymru. Mae ein cenhedlaeth ni yn gallu gwirfoddoli i gysylltu â’r henoed i daclo unigrwydd tra’n dysgu o’r profiadau.
Mae deall cyfrifon banc, cyllid y tŷ, benthyciadau a morgeisi yn hanfodol ar gyfer bywyd llwyddiannus, a dw i’n meddwl dylen nhw fod yn rhan o PSHE fel bod ein cenhedlaeth yn gallu cymryd y camau cyntaf mewn gyrfa ac osgoi dyledion.
Mae gan bobl ifanc Cymru bŵer, a dw i wir eisiau cynrychioli eich llais.