Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Eve Elizabeth Orchard

Mater o Bwys 1

Transport/ Environment / Trafnidiaeth/ Yr amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Healthcare / Gofal Iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I believe that I would be a good candidate as I have the passion and interest in many issues that effect young people and future generations. I am keen to represent young people on issues that effect us. Whilst I have my own beliefs I appreciate other peoples point of view and would share this with members of parliament, to make sure the collective voices of young people are heard.

To consult with young people in my area I would use social media platforms to publicise my role and engage with young people in Swansea West by visiting various clubs and groups to learn what is important to them.

I believe that I am a strong candidate for this role as I am approachable, fair and considerate and can be trusted to make sure the collective voice of young people is heard regardless of my own opinions. I have previously been a member of the school council and effectively contributed on matters that effected us as pupils. I would like to broaden this experience to represent more young people.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n credu y bydden i’n ymgeisydd da oherwydd mae gen i angerdd a diddordeb mewn sawl mater sy’n effeithio ar bobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol. Dw i’n awyddus i gynrychioli pobl ifanc ar bethau sy’n effeithio ni. Er bod gen i gredoau fy hun, dw i’n gwerthfawrogi barn eraill a bydden i’n rhannu hyn gydag aelodau’r senedd, i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Bydden i’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â phobl ifanc yn fy ardal i hyrwyddo fy rôl a byddwn i’n cynnwys pobl ifanc yng Ngorllewin Abertawe drwy ymweld â chlybiau a grwpiau amrywiol i ddysgu beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Dw i’n credu fy mod i’n ymgeisydd cryf ar gyfer y rôl oherwydd mae’n hawdd siarad â fi, dw i’n deg ac yn ystyrlon a byddwch chi’n gallu ymddiried ynof fi i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed, dim ots beth yw barn fy hun. Dw i wedi bod yn aelod o’r cyngor ysgol a chyfrannu’n effeithiol ar faterion oedd yn effeithio ni fel disgyblion. Dw i eisiau ehangu ar y profiad hwn a chynrychioli mwy o bobl ifanc.