Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Annie Davies-Smith
Healthcare / Gofal Iechyd
Environment / Yr Amgylchedd
Education / Addysg
Hi I’m Annie, I’m 11 years old from Swansea. I am passionate about helping people to be the best they can be.
Mental & physical health and wellbeing is very important to me. I believe it’s vital for everyone to have a healthy body, happy mindset and good mental health, because it increases their chance of having good, productive lives. I would like to help young people in bad situations to be able to get help. I’ll pledge to try to create more ways for them to do physical activities and have access to nutritious food and wellbeing services.
I want to help protect the environment and eco-system, I would like to help people learn to care for where they live and for wildlife and nature. It is crucial to make changes now for the years and generations to come. I pledge to help find ways to protect our environment in a sustainable way.
I’d like to focus on ways of helping young people to set up businesses - this will help to build independence, money skills and how to be entrepreneurial.
Helo, Annie ydw i. Dw i’n 11 oed ac yn dod o Abertawe. Dw i’n angerddol dros helpu pobl i fod y gorau y gallan nhw fod. Mae iechyd meddwl a chorfforol a lles yn bwysig iawn i mi. Dw i’n credu ei bod hi’n hanfodol i bawb gael corff iach, ffordd o feddwl hapus ac iechyd meddwl da, oherwydd mae’n cynyddu’r tebygolrwydd o gael bywydau da a chynhyrchiol. Dw i eisiau helpu pobl ifanc mewn sefyllfaoedd drwg i gael help. Dw i’n addo ceisio creu mwy o ffyrdd iddyn nhw wneud gweithgareddau corfforol a chael bwyd maethlon a gwasanaethau lles.
Dw i eisiau helpu i amddiffyn yr amgylchedd a’r ecosystem, a bydden i’n hoffi helpu pobl i ddysgu gofalu am ble maen nhw’n byw a bywyd gwyllt a natur. Mae’n hanfodol newid pethau nawr ar gyfer blynyddoedd a chenedlaethau i ddod. Dw i’n addo dod o hyd i ffyrdd i helpu amddiffyn ein hamgylchedd mewn ffordd gynaliadwy.
Dw i eisiau canolbwyntio ar ffyrdd o helpu pobl ifanc sefydlu busnesau – bydd hyn yn helpu i ddatblygu annibyniaeth, sgiliau arian a sut i fod yn entrepreneur.