Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Élodie Rolland
Plastic packaging / Pecynwaith plastig
Not enough public transport / Dim digon o drafnidiaeth gyhoeddus
Not enough NHS workers / Dim digon o weithwyr y GIG
I am Elodie, and I am running for Welsh Youth Parliament Member for Swansea West. I believe I would be a good WYPM as I have our country and planet in mind in everything I do, and I will make sure to be as eco-friendly as I can. This is why I have decided that single-use plastic should be banned across Wales. As well as this, I think there should be more public transport available in Wales. There is not enough public transport in Wales, especially when it comes to trains/trams. I also think the NHS should hire more workers, as currently waiting lists are very long. I have been on the ASD diagnosis waiting list for a year, and the orthodontist appointment waiting list in my area is two years. This is definitely an issue, especially as there have been queues of up to 18 hours for A&E.
Élodie ydw i, a dw i’n sefyll fel Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Orllewin Abertawe. Dw i’n credu y byddwn i’n Aelod SIC da gan fy mod i’n cadw ein gwlad a’n planed mewn cof ym mhopeth dw i’n ei wneud, a bydda i’n gwneud yn siŵr fy mod i mor eco-gyfeillgar â phosibl. Dyma pam dw i wedi penderfynu y dylai cynhyrchion plastig untro gael eu gwahardd ar draws Cymru. Yn ogystal â hyn, dw i’n meddwl y dylai mwy o drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael yng Nghymru, yn enwedig o ran trenau/tramiau. Dw i hefyd yn meddwl y dylai’r GIG recriwtio mwy o weithwyr, gan fod y rhestrau aros yn hir iawn ar hyn o bryd. Dw i wedi bod ar y rhestr aros am ddiagnosis anhwylderau’r sbectrwm awtistig ers blwyddyn, ac mae rhaid aros am ddwy flynedd yn fy ardal i i gael apwyntiad orthodontydd. Mae hyn yn sicr yn broblem, yn enwedig gan fod ciwiau hyd at 18 awr wedi bod ar gyfer adran damweiniau ac achosion brys.