Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ali Webb

Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Social issues / Materion cymdeithasol

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Ali and I'm from Gowerton, Swansea. I would like to be a Welsh Youth Parliament Member because ensuring representation of my peers is important to me. Since the Covid-19 Pandemic, young people have felt significantly underrepresented and even sometimes misunderstood. This is why advocacy and equal representation is essential to ensure young people are seen and heard.
To consult young people in my area I would employ a multitude of tactics because just one method is not enough to reach the highest number of people. Some examples of ideas I would like to employ include social media, in-person meetings, and social events to help make participating in our Democdemocracy less daunting.
In voting for me you would be voting for not just a single person to take on a role, as one person cannot undertake a representative role without sharing it with all of the people they represent.
I am a strong advocate for young people to be seen, heard and valued. In all settings.

DATGANIAD YMGEISYDD

Ali ydw i a dw i’n dod o Dre-gŵyr, Abertawe. Dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd mae gwneud yn siŵr bod fy nghyd-ddisgyblion yn cael eu cynrychioli yn bwysig i fi. Ers pandemig Covid-19, mae pobl ifanc wedi teimlo fel bod neb yn eu cynrychioli a hyd yn oed fel eu bod yn cael eu camddeall weithiau. Dyna pam mae eirioli a chynrychiolaeth gyfartal yn hanfodol i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu gweld a’u clywed.
Er mwyn cysylltu â phobl ifanc yn fy ardal i bydden i’n defnyddio sawl dull oherwydd dydy un ddim yn ddigon i gyrraedd y nifer fwyaf o bobl. Dyma rai enghreifftiau o syniadau: cyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd wyneb yn wyneb a digwyddiadau cymdeithasol i helpu gwneud cymryd rhan mewn democratiaeth yn llai brawychus.
Drwy bleidleisio i fi byddech chi’n pleidleisio nid i un person gyflawni rôl, oherwydd dydy un person ddim yn gallu bod mewn rôl gynrychioli heb ei rhannu gyda phawb mae’n eu cynrychioli.
Rydw i’n eiriolwr cryf i bobl ifanc gael eu gweld, clywed a’u gwerthfawrogi. Ym mhob sefyllfa.