Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Jacob David Young

Mater o Bwys 1

Physical health in youths/Iechyd corfforol pobl ifanc

Mater o Bwys 2

Underage drinking, vaping etc/Yfed dan oed, fepio ac ati.

Mater o Bwys 3

Environment/Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to become a member of the Welsh Youth Parliament because it would provide me with a unique opportunity to discover what it is like to be an MP. Being a member of the youth parliament will give me the chance to gain skills that are hard to find anywhere else, such as debating and speaking in political arenas. I want to represent the voices of my peers by asking them what they want to see in our local area. I will do this by gathering a large group of diverse opinions to ensure they are all represented.
People should vote for me as I am confident and can convey points clearly and concisely. I have had some experience in a leadership role as I was the head boy of my primary school and I have recently joined my local council's youth forum. I listen to others to ensure I have a balanced view and I am confident when outlining my views. Thank you for considering my application to join the Welsh Youth Parliament.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd byddai’n rhoi cyfle unigryw i mi ddarganfod sut beth yw bod yn AS. Bydd bod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid yn rhoi'r cyfle i mi ennill sgiliau sy'n anodd dod o hyd iddynt yn unrhyw le arall, fel dadlau a siarad mewn sefyllfaoedd gwleidyddol. Rwyf am gynrychioli lleisiau fy nghyfoedion drwy ofyn iddynt beth maent am ei weld yn ein hardal leol. Byddaf yn gwneud hyn drwy gasglu grŵp mawr o safbwyntiau amrywiol i sicrhau eu bod i gyd yn cael eu cynrychioli.
Dylai pobl bleidleisio drosof gan fy mod yn hyderus ac yn gallu cyfleu pwyntiau yn glir ac yn gryno. Mae gen i beth profiad mewn rôl arwain gan mai fi oedd prif fachgen fy ysgol gynradd ac yn ddiweddar ymunais â fforwm ieuenctid fy nghyngor lleol. Rwy’n gwrando ar eraill i sicrhau bod gennyf farn gytbwys ac rwy’n hyderus wrth amlinellu fy marn. Diolch am ystyried fy nghais i ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru.