Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

autumn-sky jean phillips

Mater o Bwys 1

Extra education for youths/Addysg ychwanegol i bobl ifanc

Mater o Bwys 2

Smoking within young people/Ysmygu ymhlith pobl ifanc

Mater o Bwys 3

The environment within Wales/Yr amgylchedd yng Nghymru

DATGANIAD YMGEISYDD

I am standing to be a member of the Welsh Youth Parliament because I believe young people deserve a strong voice in shaping the future of Wales. I want to ensure that the views of young people in my area are not only heard but acted upon. I will actively engage with my peers through regular discussions, social media, and community events to understand the issues that matter most to them.
If elected, I will focus on mental health support, environmental sustainability, and improving opportunities for young people in education and employment. I will work tirelessly to bring these concerns to the forefront and push for real change.
You should vote for me because I am dedicated, approachable, and passionate about making a difference. I have experience in teamwork and leadership roles through school projects and, which have given me the skills to represent your views effectively. Together, we can ensure that our generation has a say in the decisions that affect us today and in the future.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n sefyll i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy’n credu bod pobl ifanc yn haeddu llais cryf wrth lunio dyfodol Cymru. Rwyf am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn fy ardal, nid yn unig yn cael eu clywed, ond bod camau’n cael eu cymryd amdanynt. Byddaf yn ymgysylltu’n frwd â fy nghyfoedion drwy drafodaethau rheolaidd, cyfryngau cymdeithasol, a digwyddiadau cymunedol i ddeall y materion sydd bwysicaf iddynt.
Os caf fy ethol, byddaf yn canolbwyntio ar gymorth iechyd meddwl, cynaliadwyedd amgylcheddol, a gwella cyfleoedd i bobl ifanc mewn addysg a chyflogaeth. Byddaf yn gweithio'n ddiflino i ddod â'r pryderon hyn i'r blaen a gwthio dros newid gwirioneddol.
Dylech bleidleisio i mi oherwydd fy mod yn ymroddgar, yn hawdd siarad â mi, ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth. Mae gen i brofiad mewn gwaith tîm a rolau arwain drwy brosiectau ysgol, sydd wedi rhoi'r sgiliau i mi gynrychioli'ch barn yn effeithiol. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod gan ein cenhedlaeth lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnom heddiw ac yn y dyfodol.