Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Bailey Dunne

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 2

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 3

Welsh Language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Bailey, And as a Welsh student, I'm passionate about making a difference. I've seen peers struggle with healthcare access - long waiting times, inadequate mental health support, and limited services. As a Youth Parliament member, I'll push for increased funding for mental health services, reduced waiting times, and more facilities in less developed areas. I'll amplify voices of young people struggling with mental health, promoting access to counselling and online support. I'll also push to promote Welsh language education, celebrate cultural heritage and listen to all young voices to create positive change. I believe I would be an excellent member of the Welsh Youth Parliament due to my understanding of problems and feelings of my peers.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Bailey ac, fel myfyriwr yng Nghymru, dw i’n angerddol am wneud gwahaniaeth. Dw i wedi gweld cyfoedion yn cael trafferth gyda mynediad at ofal iechyd - rhestrau aros hir, cymorth iechyd meddwl annigonol, a gwasanaethau cyfyngedig. Fel aelod Senedd Ieuenctid, bydda i’n pwyso am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, amseroedd aros llai, a mwy o gyfleusterau mewn ardaloedd llai datblygedig. Bydda i’n tynnu sylw at leisiau pobl ifanc mae iechyd meddwl yn peri trafferth iddyn nhw, gan hyrwyddo mynediad at wasanaeth cwnsela a chymorth ar-lein. Bydda i hefyd yn pwyso i hyrwyddo addysg Gymraeg, dathlu treftadaeth ddiwylliannol a gwrando ar bob llais ifanc i greu newid cadarnhaol. Dw i’n credu y byddwn i’n aelod ardderchog o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy nealltwriaeth o broblemau a theimladau fy nghyfoedion.