Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Transport/Trafnidiaeth

Mater o Bwys 2

Environment/Yr amgylchedd

Mater o Bwys 3

Energy/Ynni

DATGANIAD YMGEISYDD

As a 16-year-old from Marloes, I am dedicated to advocating for young people, particularly in environmental conservation and enhancing public transportation access in rural Wales. Having witnessed the effects of marine pollution on wildlife and agriculture, as well as cuts to transportation services, I am committed to driving change in these areas. Reliable public transportation and environmental initiatives, including renewable energy, are crucial for our generation’s future. In the past year, I participated in many litter picks and scuba diving training with marine biologists to understand marine pollution's impact on local species. As House Captain and Deputy Head Prefect I developed strong communication and leadership skills, allowing me to advocate for my peers and embrace diverse perspectives. Living by the coast I see firsthand how pollution devastates the natural beauty of our countryside. With my passion and dedication, I am ready to ensure every young person's voice is heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel rhywun 16 oed o Farloes, dw i’n benderfynol o eirioli dros bobl ifanc, yn enwedig mewn cadwraeth amgylcheddol a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru. Gan fy mod wedi gweld effeithiau llygredd morol ar fywyd gwyllt ac amaeth, a thoriadau i wasanaethau trafnidiaeth, dw i wedi ymrwymo i newid pethau yn y meysydd hyn. Mae trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy a mentrau amgylcheddol, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, yn hanfodol i ddyfodol ein cenhedlaeth. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dw i wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel a hyfforddiant deifio sgwba gyda biolegwyr morol i ddeall effaith llygredd morol ar rywogaethau lleol. Fel Capten Tŷ a Dirprwy Brif Ddisgybl dw i wedi datblygu sgiliau cyfathrebu ac arwain cryf, sy’n golygu fy mod yn gallu eirioli dros gyd-ddisgyblion a chroesawu safbwyntiau gwahanol. Gan fy mod yn byw ger yr arfordir, dw i’n gweld yn uniongyrchol sut mae llygredd yn dinistrio harddwch naturiol cefn gwlad. Oherwydd fy angerdd ac ymroddiad, dw i’n barod i wneud yn siŵr bod llais pob person ifanc yn cael ei glywed.