Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Gwenllian Lamb

Mater o Bwys 1

Environment/Yr amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education of money in schools/Addysg ariannol mewn ysgolion

Mater o Bwys 3

Transport in Wales/Trafnidiaeth yng Nghymru

DATGANIAD YMGEISYDD

It’s too often young people my age feel their voices are too young to be counted, but can see what’s in front of them is not right. If there are things that don’t add up for you, like why canteens are still selling crates of plastic water bottles each week, or why cars and buses sit idle with their engines running next to your playgrounds, if you believe there are topics missing from your curriculum, or bike paths that should link up your local routes; let me represent your voices in the Welsh Youth Parliament. I am fluent in both Welsh and English, alongside learning Spanish and BSL. I am easy to talk to, a confident communicator and will run monthly workshops and a podcast with you, so that I can advocate for you. I have been on several committees for my school, including the Eco and Environmental committee, alongside being a language ambassador. I have been selected to represent my school in sports, the expressive arts, languages and other academic areas such as maths and science.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rhy aml, mae pobl ifanc oed fi yn teimlo bod eu lleisiau’n rhy ifanc i fod yn bwysig, ond maen nhw’n gweld bod pethau ddim yn iawn. Os ydych chi’n gweld pethau fel hyn, fel pam fod y ffreutur yn dal i werthu llwyth o boteli dwr plastig bob wythnos, neu pam fod ceir a bysus yn gadael injans yn rhedeg wrth aros ger eich caeau chwarae, os ydych chi’n meddwl bod pethau ar goll o’r cwricwlwm, neu lwybrau beicio ddylai gysylltu â’ch llwybrau lleol; gadewch i fi gynrychioli’ch lleisiau yn Senedd Ieuenctid Cymru. Dw i’n siarad Cymraeg a Saesneg ac yn dysgu Sbaeneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae’n hawdd siarad â fi, dw i’n hyderus yn cyfathrebu a dw i am gynnal gweithdai misol a phodlediad gyda chi, i wneud yn siŵr fy mod i’n gallu eirioli drosoch chi. Dw i wedi bod ar sawl pwyllgor yn yr ysgol, fel y pwyllgor Eco ac Amgylchedd, a dw i’n llysgennad iaith. Dw i wedi cael fy newis i gynrychioli fy ysgol mewn chwaraeon, celfyddydau mynegiannol, iaith a meysydd academaidd eraill fel mathemateg a gwyddoniaeth.