Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Toby Middlemist

Mater o Bwys 1

Education Access / Mynediad i addysg

Mater o Bwys 2

Economic Opportunity / Cyfleoedd economaidd

Mater o Bwys 3

Political Engagement / Ymgysylltiad gwleidyddol

DATGANIAD YMGEISYDD

The WYP offers young people an opportunity to represent the views, voices and concerns of their peers. It empowers members to bring forward the concerns of young people and influence consequential decisions that affect their lives. As somebody deeply passionate about politics and the potential encapsulated in government, the WYP offers me the chance to put theory into practice, to see what governance is really like, and to start turning the change I envision into reality. I believe in the possibility of change and have my priorities set. Allowing all young people to achieve their potential, ensuring the government is consistently working to better efficiency, and rebuilding links between politicians and people. As a former chairperson of my school council, I have experience in representing and leading young people, as well as communication and public speaking. I'll consult with young people through social media, public surveys, and by encouraging direct communication with me.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc gynrychioli barn, llais a phryderon pobl ifanc. Mae’n caniatáu i aelodau drafod pryderon pobl ifanc a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Fel rhywun sy’n angerddol iawn dros wleidyddiaeth a photensial y llywodraeth, mae’r Senedd Ieuenctid yn rhoi cyfle i mi droi theori yn ymarfer, gweld sut mae llywodraethu’n gweithio go iawn a dechrau troi’r newid dw i’n ei ddychmygu yn realiti. Dw i’n credu mewn posibilrwydd newid a dw i’n gwybod beth yw fy mlaenoriaethau. Gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn gallu cyrraedd ei botensial, gwneud yn siŵr bod y llywodraeth yn gweithio’n gyson i wella effeithlonrwydd, ac ail-adeiladu cysylltiadau rhwng gwleidyddion a phobl. Fel cyn-gadeirydd fy nghyngor ysgol, mae gen i brofiad yn cynrychioli ac arwain pobl ifanc, yn ogystal â chyfathrebu a siarad cyhoeddus. Dw i’n bwriadu cysylltu â phobl ifanc drwy gyfryngau cymdeithasol, arolygon cyhoeddus a chyfathrebu uniongyrchol gyda fi.