Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Gethin Harries

Mater o Bwys 1

Housing/Tai

Mater o Bwys 2

Welsh Language/Y Gymraeg

Mater o Bwys 3

Healthcare/Gofal iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a member of the Welsh Youth Parliament because I truly believe in representing my area and also I hope to pursue a career in politics. To ensure my peers’ voices are heard, I will partake in local events, take my problems to my local councillor and most importantly, listen. You should vote for me because I am someone who believes in people and what they’ve got to offer, I do not believe in using people to your own advantage. I was born in Carmarthen, but have lived in North Pembrokeshire all my life. I know what it is to struggle and I have seen enough young people struggling in my area. I believe I can encourage young people to interact more and get more involved with their community. I believe that I have the capabilities to be a member as I am good with people, I have good organisation skills, I am already on two village committees and I have been introduced to the Manordeifi Parish Council Youth Section. I do believe I have what it takes, I believe in community.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i wir yn credu mewn cynrychioli fy ardal. Hefyd, dw i’n gobeithio dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, dw i am gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, trafod problemau gyda’r cynghorydd lleol ac yn bwysicach na hynny, gwrando. Dylech chi bleidleisio drosof fi oherwydd dw i’n credu mewn pobl a beth maen nhw’n gallu cynnig, dw i ddim yn rhywun sy’n credu mewn defnyddio pobl. Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, ond dw i wedi byw yng ngogledd Sir Benfro drwy fy mywyd. Dw i wedi’i chael hi’n anodd a dw i wedi gweld digon o bobl ifanc yn fy ardal yn teimlo felly hefyd. Dw i’n credu fy mod yn gallu annog pobl ifanc i ryngweithio mwy a chymryd rhan yn y gymuned. Dw i’n credu bod gen i’r gallu i fod yn aelod oherwydd dw i’n berson pobl, mae gen i sgiliau trefnu da, dw i ar ddau bwyllgor pentref yn barod a dw i wedi cael fy nghyflwyno i Adran Ieuenctid Cyngor Plwyf Manordeifi. Dw i’n credu bod gen i’r gallu, dw i’n credu yn y gymuned.