Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Cody goody

Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

DATGANIAD YMGEISYDD

I have had a love for Wales and Welsh culture since I was young and later on in life this evolved into an interest in Welsh politics. I want to be a Welsh Youth Parliament Member because I want to spread awareness on issues that greatly affect the UK, and Wales specifically. For example, I have read the government's report on the area and noted how RCT and Wales has reported worse mental health statistics than England, etc. In turn, I have trained to become a mental health champion and plan on doing at least 15 hours of community service in my area. This will be essential in gathering info on the opinions of my local area. I think I'd be a great candidate due to my grasp on politics in the UK and Wales especially. For example, in my opinion, Wales is hugely underrepresented in parliament as we've lost 8 constituencies nationally (40 to 32). I am also confident in talking to large audiences and would talk about how Wales has the lowest voter turnout in the UK and how to change it.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i wedi caru Cymru a diwylliant Cymru ers ro’n i’n ifanc ac yn nes ymlaen mewn bywyd mae hyn wedi datblygu i fod yn ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru. Dw i eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau rhannu ymwybyddiaeth ar faterion sy’n cael effaith fawr ar y DU a Chymru yn enwedig. Er enghraifft, dw i wedi darllen adroddiad y llywodraeth ar yr ardal, a sylwais bod ystadegau iechyd meddwl RhCT a Chymru yn waeth na rhai Lloegr ac ati. Hefyd, dw i wedi hyfforddi i ddod yn bencampwr iechyd meddwl ac yn bwriadu gwneud o leiaf 15 awr o wasanaeth cymuned yn fy ardal. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn casglu gwybodaeth ar farn y bobl leol. Dw i’n credu bydden i’n ymgeisydd gwych oherwydd dw i’n deall gwleidyddiaeth y DU a Chymru yn benodol. Er enghraifft, yn fy marn i, mae Cymru’n cael ei thangynrychioli yn y Senedd gan ein bod wedi colli 8 etholaeth yn genedlaethol (o 40 i 32). Dw i hefyd yn hyderus yn siarad gyda chynulleidfa fawr, a bydden i’n trafod sut mai Cymru sydd â’r nifer leiaf o bleidleiswyr yn y DU a sut i newid hynny.