Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Ava Martin-Thomas
Welsh language / Y Gymraeg
Extra curricular opportunities / Cyfleoedd trawsgwricwlaidd
Young people's mental health / Iechyd meddwl pobl ifanc
I am an enthusiastic, passionate, and optimistic individual that would be privileged to voice the opinion of the young people of Pontypridd. That is why I aspire to join the youth parliament - to represent young people from all backgrounds and to be an advocate for equity and excellence. Giving back to my community is important to me because it shapes who we are, provides support and gives us a sense of belonging and purpose. As a passionate Welsh speaker, it’s vital that we strengthen unity and culture. Furthermore, my work with cancer research has inspired me to ensure equal opportunities for all. Whilst I would use modern communication, face-to-face interactions are essential for understanding authentic thoughts. I believe in turning vision into reality as listening and acting upon feedback is imperative. As a young girl who has grown up through lockdown and the challenges of society today, I would be honoured to work with our community to help better our future for Wales and beyond
Rydw i’n frwdfrydig, yn angerddol ac yn optimistaidd a bydden i’n falch o leisio barn pobl ifanc Pontypridd. Dyma pam dw i eisiau bod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid – i gynrychioli pobl ifanc o bob cefndir a bod yn eiriolwr dros gydraddoldeb a rhagoriaeth. Mae rhoi yn ôl i’r gymuned yn bwysig i mi gan ei bod yn siapio pwy ydyn ni, yn rhoi cymorth a synnwyr o berthyn a phwrpas. Fel siaradwr Cymraeg angerddol, mae’n hanfodol ein bod yn cryfhau undod a diwylliant. Ymhellach i hynny, mae fy ngwaith gydag ymchwil canser wedi fy ysbrydoli i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Er y bydden i’n defnyddio cyfathrebu modern, mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn hanfodol i ddeall barn wirioneddol. Dw i’n credu mewn troi gweledigaeth yn realiti drwy wrando, ac mae gweithredu adborth yn hanfodol. Fel merch ifanc sydd wedi tyfu i fyny drwy’r cyfnod clo a heriau cymdeithas heddiw, bydden i’n falch o weithio gyda’n cymuned i helpu i wella ein dyfodol i Gymru a thu hwnt.