Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Sana Raza

Mater o Bwys 1

Mental Health Support / Cymorth Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Climate Change / Newid Hinsawdd

Mater o Bwys 3

Diversity Education / Addysg am Amrywiaeth

CANDIDATE STATEMENT

I want to be a Welsh Youth Parliament Member as I am passionate about supporting my generation so that we are fully equipped to take on the responsibility of our nation.
I will communicate with young people in a variety of ways ensuring that everyone has an equal opportunity to raise concerns and listen to everyone with an open mind, making sure to collect a wide range of opinions and ideas for true representation of my area. Voting for me will give you a proactive and inclusive representative, who is open to hearing new and innovative ideas.
I have extensive experience in my school council, where I encouraged my peers to share their concerns and views about our educational system and school facilities. Additionally, I was the Charity and Eco representative which involved carefully planning and executing fundraising events. This experience will help me consult with others, plan initiatives and deliver these effectively.
Thank you for taking the time to read my statement.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n angerddol am gefnogi fy nghenhedlaeth fel ein bod ni’n barod i ddelio gyda chyfrifoldeb ein cenedl.
Dw i’n mynd i gyfathrebu gyda phobl ifanc mewn sawl ffordd gan wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle cyfartal i godi pryderon a gwrando ar bawb gyda meddwl agored, gan wneud yn siŵr fy mod yn casglu ystod helaeth o farn a syniadau i gael cynrychiolaeth go iawn o’r ardal. Drwy bleidleisio drosof fi, byddwch chi’n cael cynrychiolydd rhagweithiol a chynhwysol, sy’n agored i glywed syniadau newydd ac arloesol. Mae gen i brofiad helaeth o’r cyngor ysgol, lle dw i wedi annog cyd-ddisgyblion i rannu pryderon a barn am ein system addysgol a chyfleusterau’r ysgol. Hefyd, fi oedd y cynrychiolydd Elusennau ac Eco oedd yn golygu cynllunio yn ofalus a threfnu digwyddiadau codi arian. Bydd y profiad hwn yn fy helpu i gysylltu ag eraill, cynllunio mentrau a chyflawni’r rhain yn effeithiol.
Diolch am gymryd yr amser i wrando ar fy natganiad.