Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ethan Lewis

Mater o Bwys 1

A diverse, inclusive Wales / Cymru amrywiol, mwy cynhwysol

Mater o Bwys 2

Decisive climate action / Gweithredu pendant ar yr hinsawdd

Mater o Bwys 3

The inclusion of young voices / Cynnwys lleisiau ifanc

CANDIDATE STATEMENT

It is my firm belief that as a country, Wales has the potential to be at the forefront of innovation, diversity and the fight against climate change. The road towards solving these issues runs directly through Newport. We are already ahead of the curve, being one of the most diverse, compassionate and environmentally conscious areas of the country. While expanding on these unique qualities, the people of Newport West deserve better, cheaper and more accessible public services. That's why, if elected, I would work hard along with Senedd and fellow Youth Parliament members, to push for a better deal for you and your families. Politics has always been an interest of mine and I am passionate about helping to solve the challenges we are currently facing and lessen the impact they are having on your lives. It is my promise that I would push for the public spaces, services and schools that are important to you. I truly believe that with your vote, I can contribute to a better Wales.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n credu’n gryf bod gan Gymru, fel gwlad, y potensial i fod ar flaen y gad o ran arloesedd, amrywiaeth a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r daith tuag at ddatrys y problemau hyn yn mynd yn union drwy Gasnewydd. Ni eisoes yn gwneud yn dda drwy fod yn un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol, tosturiol ac ymwybodol o’r amgylchedd yn y wlad. Wrth ehangu ar y rhinweddau unigryw hyn, mae pobl Gorllewin Casnewydd yn haeddu gwasanaethau cyhoeddus gwell, rhatach a mwy hygyrch. Dyna pam, os caf fy ethol, bydden i’n gweithio’n galed gyda’r Senedd a chyd-aelodau o’r Senedd Ieuenctid i wthio am fargen well i chi a’ch teuluoedd. Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, a dw i’n angerddol dros helpu i ddatrys yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd a lleihau’r effaith ar eich bywydau chi. Dw i’n addo galw am y lleoedd cyhoeddus, gwasanaethau ac ysgolion sy’n bwysig i chi. Dw i wir yn credu y bydden i’n gallu cyfrannu at Gymru well gyda’ch pleidlais chi.