Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Shazeen

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Housing / Tai

Mater o Bwys 3

Environment / Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

I am passionate about becoming a Welsh Youth Parliament Member to give young people in our community a stronger voice in shaping our future. My top priorities are improving education, addressing housing issues, and protecting the environment. I believe every young person deserves high-quality education, affordable housing, and a healthy environment.

To ensure that I represent you effectively, I will hold regular consultations, using social media, school meetings, and community events to gather your views. I will actively listen to your concerns and ideas, ensuring they are heard in the Youth Parliament.

You should vote for me because I am dedicated, approachable, and committed to making a difference.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n angerddol dros ddod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru i roi llais cryfach i bobl ifanc yn ein cymuned wrth lywio ein dyfodol. Fy mhrif flaenoriaethau yw gwella addysg, mynd i’r afael â materion tai, a diogelu’r amgylchedd. Dw i’n credu bod pob person ifanc yn haeddu addysg o ansawdd uchel, tai fforddiadwy, ac amgylchedd iach.

Er mwyn sicrhau fy mod i’n eich cynrychioli’n effeithiol, bydda i’n cynnal ymgynghoriadau rheolaidd, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd ysgol, a digwyddiadau cymunedol i gasglu eich barn. Bydda i’n mynd ati i wrando ar eich pryderon a’ch syniadau, gan sicrhau eu bod nhw’n cael eu clywed yn y Senedd Ieuenctid.

Dylech chi bleidleisio drosof i oherwydd fy mod i’n ymroddedig, mae’n hawdd dod ata i, a dw i wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth.