Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Bryn Geary

Mater o Bwys 1

Fair and Affordable Transport / Trafnidiaeth deg a fforddiadwy

Mater o Bwys 2

Sustaining the Environment / Amgylchedd cynaliadwy

Mater o Bwys 3

Your Health and Well-being / Iechyd meddwl ac iechyd corfforol

DATGANIAD YMGEISYDD

The privilege of representing you in the Youth Parliament would enable me to voice concerns and oversee changes that are relevant to me and many others across Newport East. As a member of the Newport Youth Council, I fully understand the issues and ambitions of young people in Newport. I am aware of what worries you the most. I am also involved in the community across Caldicot and Rogiet meaning I can represent you all.

Representing you as your elected official would mean campaigning for the changes we need. Changes in the form of making school transport and trains cheaper and more accessible, encouraging young people to preserve the environment while holding organisations to account, and supporting young people’s mental and physical health. Newport East holds so much opportunity and potential for young people and it's time we realise this.

Any news will be on my Instagram as I know transparency is essential in politics. My vote is a vote for realistic progress.

DATGANIAD YMGEISYDD

Byddai’r fraint o’ch cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid yn fy ngalluogi i leisio pryderon a goruchwylio newidiadau sy’n berthnasol i mi a llawer o bobl eraill ar draws Dwyrain Casnewydd. Yn aelod o Gyngor Ieuenctid Casnewydd, dw i’n llwyr ddeall materion penodol ac uchelgeisiau pobl ifanc yng Nghasnewydd. Rwy'n ymwybodol o'r hyn sy'n eich poeni fwyaf. Rwyf hefyd yn ymwneud â'r gymuned ar draws Cil-y-coed a Rogiet, sy'n golygu y gallaf eich cynrychioli chi i gyd.
Bydd cynrychioli chi fel eich swyddog etholedig yn golygu ymgyrchu dros y newidiadau sydd eu hangen arnom. Newidiadau ar ffurf gwneud cludiant ysgol a threnau'n rhatach ac yn fwy hygyrch, gan annog pobl ifanc i ddiogelu'r amgylchedd tra'n dwyn sefydliadau i gyfrif, a chefnogi iechyd meddyliol a chorfforol pobl ifanc. Mae gan Ddwyrain Casnewydd gymaint o gyfle a photensial i bobl ifanc ac mae'n bryd i ni sylweddoli hyn.
Bydd unrhyw newyddion ar fy Instagram gan fy mod yn gwybod bod tryloywder yn hanfodol mewn gwleidyddiaeth. Mae fy mhleidlais yn bleidlais dros gynnydd realistig.