Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Evan Cunningham

Mater o Bwys 1

Welsh Language / Y Gymraeg

Mater o Bwys 2

Childhood obesity / Gordewdra ymhlith plant

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

I'm eager to become a Welsh Youth Parliament Member to represent the voices of young people in Newport and advocate for their needs. I believe that our youth deserve to express their opinions on issues that affect them, from crime to climate change to cost of living. You should vote for me because I am passionate about learning new things, exploring creative ideas and helping others grow and succeed. I am focused on understanding and addressing the unique needs of young people so that every young person feels empowered to share their thoughts and opinions. My experience in leadership roles within sports clubs, volunteering in church, being part of school councils and participating in various projects has given me strong communication and organisational skills. I’m approachable, a good listener, a welsh speaker and someone who can bring people together to collaborate on solutions. By joining the Welsh Youth Parliament, I hope to shape a better, more progressive, unified future for Wales

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy'n awyddus i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli lleisiau pobl ifanc Casnewydd ac i hyrwyddo eu hanghenion. Credaf fod ein hieuenctid yn haeddu mynegi eu barn ar faterion sy’n effeithio arnynt, o droseddu i newid hinsawdd i gostau byw. Dylech bleidleisio drosof fi oherwydd fy mod yn teimlo’n angerddol dros ddysgu pethau newydd, archwilio syniadau creadigol a helpu eraill i dyfu a llwyddo. Rwy’n canolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael ag anghenion unigryw pobl ifanc fel bod pob person ifanc yn teimlo wedi’i rymuso i rannu ei feddyliau a’i farn. Mae fy mhrofiad mewn rolau arwain o fewn clybiau chwaraeon, gwirfoddoli yn yr eglwys, bod yn rhan o gynghorau ysgol a chymryd rhan mewn prosiectau amrywiol wedi rhoi sgiliau cyfathrebu a threfnu cadarn i mi. Rwy'n berson sy’n rhwydd siarad ag ef, yn wrandäwr da, yn siarad Cymraeg ac yn rhywun sy'n gallu dod â phobl ynghyd i gydweithio ar atebion. Drwy ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru, rwy’n gobeithio llunio dyfodol gwell, mwy blaengar, unedig i Gymru.