Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Sebastian Lyne

Mater o Bwys 1

Education - The new curriculum / Addysg – y cwricwlwm newydd

Mater o Bwys 2

Healthcare - Money to the NHS / Gofal iechyd - arian i'r GIG

Mater o Bwys 3

Housing - The new estates / Tai - Y stadau newydd

DATGANIAD YMGEISYDD

I am eager to become a Welsh Youth Parliament Member to ensure that the voices of young people in my community are heard and considered in the decisions shaping our country. I’m passionate about issues such as protecting green spaces, as new housing estates are impacting nature.

If elected, I’ll consult with young people by presenting at school and creating an online platform for them to share their concerns. This way, every young person’s voice will have the opportunity to be heard.

My skills and experiences make me well-suited to this role. Through the First Give program, I developed confidence in public speaking, which I’ll use to speak up in Parliament. As a member of my school council, I represent my year and advocate for their opinions in the decision-making process.

I’m a strong listener and a confident speaker, and I’m committed to raising the issues that matter to young people in my local area. For this, I ask for your support to represent you in the Welsh Youth Parliament

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n awyddus i ddod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn fy nghymuned yn cael eu clywed a’u hystyried yn y penderfyniadau sy’n llunio ein gwlad. Rwy'n angerddol am faterion fel diogelu mannau gwyrdd, gan fod ystadau tai newydd yn effeithio ar fyd natur.

Os caf fy ethol, byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc drwy gyflwyno yn yr ysgol a chreu llwyfan ar-lein iddynt rannu eu pryderon. Fel hyn, bydd llais pob person ifanc yn cael y cyfle i gael ei glywed.

Mae fy sgiliau a phrofiadau yn fy ngwneud yn addas iawn ar gyfer y rôl hon. Drwy’r rhaglen First Give, datblygais yr hyder i siarad yn gyhoeddus, sgil y gallwn ei ddefnyddio i godi llais yn y Senedd. Fel aelod o fy nghyngor ysgol, rwy’n cynrychioli fy mlwyddyn ac yn eiriol dros eu barn yn y broses o wneud penderfyniadau.

Rwy’n wrandäwr cryf ac yn siaradwr hyderus, ac rwy’n frwd o ran codi materion sydd o bwys i bobl ifanc yn fy ardal leol. Felly gofynnaf am eich cefnogaeth i’ch cynrychioli yn Senedd Ieuenctid Cymru.