Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Luke Maurice Brian Davies
The environment of South Wales / Amgylchedd De Cymru
Less people are speaking Welsh / Mae llai o bobl yn siarad Cymraeg
Better education system / Gwell system addysg
Shwmae! I want to be a member of the Welsh Youth Parliament because I want to work on providing a better present and future for Wales. In my area of Caerleon, East Newport, I will make young people's voices heard by taking their opinions into consideration and reporting them to the Junior Sennedd. I feel that being in the Welsh Youth Parliament, I would be a representative for my area and country and therefore responsible for working with the sennedd to getting young people's voices heard as well as working to improve the country's environment, education and amount of Welsh speakers. People should vote for me for a role in the Youth Parliament because I aim to improve the country in the best way I can. I have lots of experience of leadership including in primary school I was the Minister for the Environment in my student council. In my current school council I have three different roles including being a Form Representative, a Eco Leader and a member of 'Crew Cymraeg'. Hwyl Fawr!
Shwmae! Rydw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rydw i eisiau gweithio ar ddarparu gwell presennol a dyfodol i Gymru. Yn fy ardal i, sef Caerllion, Dwyrain Casnewydd, byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed drwy ystyried eu safbwyntiau a'u hadrodd i'r Senedd Iau. Wrth fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, byddwn yn cynrychioli fy ardal a’m gwlad ac felly’n gyfrifol am weithio gyda’r Senedd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn ogystal â gweithio i wella amgylchedd ac addysg y wlad a nifer y siaradwyr Cymraeg. Dylai pobl bleidleisio i mi gael rôl yn y Senedd Ieuenctid oherwydd fy mod yn bwriadu gwella'r wlad yn y ffordd orau y gallaf. Mae gennyf lawer o brofiad o arweinyddiaeth gan gynnwys yn yr ysgol gynradd. Roeddwn yn Weinidog yr Amgylchedd yn fy nghyngor myfyrwyr. Yn fy nghyngor ysgol presennol, mae gen i dair rôl wahanol gan gynnwys bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, yn Arweinydd Eco ac yn aelod o'r Criw Cymraeg' Hwyl Fawr!