Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Adam Waker

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Transport/Cludiant

Mater o Bwys 2

Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Supporting small businesses/Cefnogi busnesau bach

DATGANIAD YMGEISYDD

I have been infantilised by politics ever since Covid-19 flew everyone's life into a whirlwind. The long hours gave me opportunities to explore political theory, global affairs, and national issues; I came across the harsh reality that our country is broken. I am not unique, but I am a community member who cares and will help improve life in our area, even if not elected.

If elected, my main target will be to enhance clean, efficient transportation as 26% of UK emissions come from transport, making it the largest pollutant. This issue can be fixed through the efforts of national and local governments, along with individual initiatives. Public transport is a huge ally in achieving this goal, I will help strengthen transport links in rural and urban areas. Another aim of mine is decreasing reliance on fossil fuels by supporting local businesses ventures toward net zero. Small businesses are vital for community success, making it crucial that we support them.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth byth ers i Covid-19 chwythu bywyd pawb yn gorwynt. Rhoddodd yr oriau hir gyfleoedd i mi archwilio theori wleidyddol, materion byd-eang, a materion cenedlaethol. Fe wnes i ganfod y realiti llym bod ein gwlad wedi torri. Dydw i ddim ar fy mhen fy hun, ond dw i’n aelod o gymuned lle mae’r materion hyn yn bwysig iddi ac a fydd yn helpu i wella bywyd yn ein hardal, hyd yn oed os na chawn fy ethol.

Os caf fy ethol, fy mhrif darged fydd gwella cludiant glân ac effeithlon gan fod 26% o allyriadau’r DU yn dod o drafnidiaeth, sy’n golygu mai dyma’r llygrydd mwyaf. Gellir datrys y mater hwn trwy ymdrechion llywodraethau cenedlaethol a lleol, ynghyd â mentrau unigol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gynghreiriad enfawr wrth gyflawni’r nod hwn. Byddaf yn helpu i gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol. Nod arall sydd gen i yw lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil drwy gefnogi mentrau busnesau lleol tuag at sero net. Mae busnesau bach yn hanfodol ar gyfer llwyddiant cymunedol, ac mae’n hollbwysig ein bod yn eu cefnogi.