Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Grace Amanda Williams

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Young carers/Gofalwyr ifanc

Mater o Bwys 2

Education/Addysg

Mater o Bwys 3

Smoking and vaping/Ysmygu a fepio

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi, I’m Grace Williams, year 10 at dwy y felin and I would like to make a change by joining the youth parliament. I want to change how Wales views young carers and share my ideas on how to make young carers' lives easier. Other issues important to me are education, like how stressful it can be for young people, and the cost of going to school. And why young people are getting addicted to vaping and smoking. This is important to me as suddenly my nan passed due to cigarettes. Every fortnight I go to young carers so I’ll talk to them about what changes they would like to make and share them with youth parliamentarians. I think you should vote for me because I am a caring, mature, young person who really wants to change the lives of young people in my area. I also think that I would be a perfect candidate because I am a young carers rep in my school, a young ash Wales ambassador, part of NPT youth council, awarded a rotary award, and I volunteer at my local church and in st John ambulance

DATGANIAD YMGEISYDD

Helô, Grace Williams ydw i, disgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Dŵr y Felin a hoffwn wneud newid drwy ymuno â'r Senedd Ieuenctid. Dw i am newid sut mae Cymru’n gweld gofalwyr ifanc a rhannu fy syniadau ar sut i wneud bywydau gofalwyr ifanc yn haws. Rhai materion eraill sy’n bwysig i mi yw addysg; er enghraifft pa mor llawn straen y gall y profiad fod i bobl ifanc, cost mynd i’r ysgol, yn ogystal â pham mae pobl ifanc yn mynd yn gaeth i fepio ac ysmygu. Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd bu farw fy nain yn sydyn oherwydd sigaréts. Bob pythefnos dw i’n mynd i sesiynau gofalwyr ifanc, felly byddaf yn siarad â nhw am ba newidiadau yr hoffen nhw eu gwneud a'u rhannu ag aelodau’r Senedd Ieuenctid. Dw i’n meddwl y dylech chi bleidleisio drosta i oherwydd fy mod i’n berson ifanc gofalgar ac aeddfed sydd wir eisiau newid bywydau pobl ifanc yn fy ardal. Dw i hefyd yn meddwl y byddwn i’n ymgeisydd perffaith oherwydd fy mod i’n gynrychiolydd gofalwyr ifanc yn fy ysgol, yn llysgennad ifanc Ash Cymru, yn rhan o gyngor ieuenctid CNPT, dw i wedi ennill gwobr rotari, a dw i’n gwirfoddoli yn fy eglwys leol a chydag Ambiwlans Sant Ioan.