Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Hannah Slater

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Agriculture / Amaeth

Mater o Bwys 3

Healthcare / Gofal Iechyd

DATGANIAD YMGEISYDD

I believe I will be a good Youth Parliament member by being a voice for everyone no matter what. I will always listen to any concerns and make sure to raise them in meetings. Working as a team is vital to ensuring that as a Parliament we are able to address the challenges that young people face and finding a beneficial solution for everyone. I always ensure that everyone, including myself, has an opportunity to contribute to discussions. As an approachable, empathetic person, I strongly believe that I will be a valuable advocate for the youth in our community. I will strive to work towards making positive change in our community and thus making me a valuable representative for young people in Wales. I am not afraid to participate and use my voice to make a positive impact for young people now and going forward. By voting for me, you can trust that I will be a dedicated and effective voice for the young people of Wales in the Wesh Youth Parliament!

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n meddwl y bydda’ i’n aelod da o’r Senedd Ieuenctid drwy fod yn llais i bawb ym mhob sefyllfa. Dw i’n bwriadu gwrando ar unrhyw bryderon a gwneud yn siŵr i’w trafod mewn cyfarfodydd. Mae gweithio fel tîm yn hanfodol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu datrys problemau pobl ifanc fel Senedd, a dod o hyd i ateb da i bawb. Dw i bob tro’n gwneud yn siŵr bod pawb, gan gynnwys fi, yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau. Fel rhywun hawddgar sy’n gallu dangos empathi, dw i’n credu yn gryf y bydden i’n eiriolwr gwerthfawr dros bobl ifanc yn ein cymuned. Dw i’n bwriadu gweithio tuag at wneud newidiadau positif yn ein cymuned, sy’n gwneud fi yn gynrychiolydd gwerthfawr o bobl ifanc yng Nghymru. Dydw i’m yn ofni cymryd rhan a chodi llais i wneud newidiadau positif i bobl ifanc nawr ac i’r dyfodol. Drwy bleidleisio drosof fi, dw i’n addo y byddaf yn llais ymroddgar ac effeithiol i bobl ifanc Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru!