Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Bethan Eleri Andrews
The Environment / Yr Amgylchedd
The Welsh Language / Y Gymraeg
Education / Addysg
I would like to become a Welsh Youth Parliament Member because I am concerned about our environment and how we are affecting it. I would also like to help young people’s voices in my area to be heard and acknowledged. I think someone should vote for me because I think it’s important that young people are represented, and I care about being a positive voice in the community. I’ll try to make sure that all young people’s voices in the area are heard. In my primary I was captain of my school house. With my school sports day I had to help the lower school. I’m good at discussing and sharing ideas. I’m also good at listening to other people and supporting them. I’ve spoken in public in the Eisteddfod by competing in the Llefaru and Unawd many times and in the Cân Actol twice. I will consult with young people in the area by creating a digital newsletter to be sent to local schools by email and by making a safe website on google sites.
Thank You!
Dw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n poeni am yr amgylchedd a sut rydyn ni’n effeithio arno. Dw i hefyd eisiau helpu gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc fy ardal yn cael eu clywed a’u cydnabod. Dw i’n meddwl dylai rhywun bleidleisio drosof fi oherwydd dw i’n credu ei bod hi’n bwysig cynrychioli pobl ifanc, ac mae bod yn llais positif yn y gymuned yn bwysig i mi. Dw i’n bwriadu ceisio gwneud yn siŵr bod llais pob person ifanc yn fy ardal yn cael ei glywed. Yn yr ysgol gynradd, fi oedd capten fy nhŷ. Roeddwn i’n helpu’r ysgol isaf ar ddiwrnod mabolgampau. Dw i’n dda am drafod a rhannu syniadau. Hefyd, dw i’n dda am wrando ar eraill a’u cefnogi. Dw i wedi siarad yn gyhoeddus yn yr Eisteddfod drwy gystadlu yn y Llefaru a’r Unawd sawl gwaith, a’r Gân Actol ddwywaith. Rydw i am gysylltu â phobl ifanc yn fy ardal drwy greu cylchlythyr digidol fydd yn cael ei anfon at ysgolion lleol dros e-bost. Dw i hefyd am greu gwefan diogel ar Google Sites.
Diolch!