Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Support for Digital Industries / Cymorth i Ddiwydiannau Creadigol

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Noah Davis, I am 11 years old and would like to be a Welsh Youth Parliament member to give a voice to young people in Wales and shape government policy.
I have an eating disorder called ARFID, which limits the foods I am able to eat, sensory processing disorder and hypermobility. I know what it’s like to feel different and unrepresented. I would campaign for better support on behalf of all who struggle.
However I am more than my disabilities. I am a scout, I play guitar and I enjoy nature and the environment. I am a keen gamer and hope to work in the gaming industry when I am older.
The Welsh Government has made good progress on responding to climate change and protecting our environment, whilst encouraging digital industries to move to Wales creating more job opportunities. But more needs to be done and I would be proud to support the Welsh Government in these areas.
Please vote for me so I can help shape a future Wales that is inclusive and supportive for all.

DATGANIAD YMGEISYDD

Noah Davis yw i, dw i’n 11 oed a dw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn rhoi llais i bobl Cymru a siapio polisi’r llywodraeth.
Mae gen i anhwylder bwyta a’r enw ARFID, sy’n cyfyngu ar y bwyd dw i’n gallu bwyta, anhwylder prosesu synhwyraidd a gorsymudedd. Dw i’n gwybod sut beth yw teimlo’n wahanol a fel bod neb yn eich cynrychioli. Bydden i’n ymgyrchu dros gymorth gwell i bawb sy’n ei chael hi’n anodd. Ond dw i’n fwy na fy anableddau. Dw i'n sgowt, dw i’n chwarae’r gitâr ac yn mwynhau natur a’r amgylchedd. Dw i’n mwynhau chwarae gemau ar-lein ac yn gobeithio gweithio yn y diwydiant gemau pan dw i’n hŷn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da yn ymateb i newid hinsawdd ac amddiffyn yr amgylchedd, tra’n annog diwydiannau digidol i symud i Gymru a chreu mwy o swyddi. Ond mae angen gwneud mwy a bydden i’n falch o gefnogi Llywodraeth Cymru yn y gwaith hwn.
Pleidleisiwch drosof fi fel fy mod yn gallu siapio Cymru sy’n gynhwysol ac yn cefnogi pawb yn y dyfodol.