Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Iestyn John Davies

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 2

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

DATGANIAD YMGEISYDD

When most 5-year-olds were watching Peppa Pig, I can remember being more engaged with BBC Breakfast in the mornings! I feel that my interest in politics has steadily grown over the years. Now that my GCSE's are complete, I feel that I am ready for the next challenge by joining the Youth Parliament. Being a young carer has changed my perceptions of the world, giving me a more mature mindset and a good understanding of the challenges that disabled families face on a daily basis. During my time at Comprehensive School, I was actively involved in the school council and was voted class representative five years in a row. I also received an innovation award for a mental health app I created, which was judged by Cardiff University representatives. Thank you for reading my statement.

DATGANIAD YMGEISYDD

Pan oedd y rhan fwyaf o blant 5 oed yn gwylio Peppa Pig, dw i’n gallu cofio cymryd mwy o sylw o BBC Breakfast yn y bore! Dw i’n teimlo bod fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth wedi tyfu’n gyson dros y blynyddoedd. Gan fod fy nghyrsiau TGAU wedi’u cwblhau, dw i’n teimlo’n barod am yr her nesaf drwy ymuno â’r Senedd Ieuenctid. Fel gofalwr ifanc, mae fy nghanfyddiadau o’r byd wedi newid, gan roi i mi feddylfryd mwy aeddfed a dealltwriaeth dda o’r heriau mae teuluoedd anabl yn eu hwynebu bob dydd. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol gyfun, roeddwn i’n mynd ati i gymryd rhan yn y cyngor ysgol a chael fy mhleidleisio’n gynrychiolydd dosbarth bum mlynedd yn olynol. Enillais i wobr arloesedd hefyd am yr ap iechyd meddwl wnes i greu a gafodd ei dyfarnu gan gynrychiolwyr Prifysgol Caerdydd. Diolch am ddarllen fy natganiad.