Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Oliver Pask

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Culture / Diwylliant

Mater o Bwys 2

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Hello, I am Oliver Pask and I am excited to stand as a candidate for Youth Parliament for Islwyn.

I believe there is great merit in listening to the voices of today’s youths in order to shape our future, and I am committed to being a strong representative for our generation in Islwyn.

I have worked as a member of our School Council for the last 3 years and have played an integral part in decision making activities that have led to positive changes at Islwyn High School for students. I am currently Head Boy of Islwyn High School and have enjoyed working with all stakeholders, including Governors and parents to have a positive impact on the school. I am passionate about making real, lasting change.

With your support, I will be a strong, determined voice in Youth Parliament, advocating for our rights, our future, and our shared values.

Thank you for your time.

Kind regards,
Oliver Pask - Candidate for Youth Parliament

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, Oliver Pask ydw i a dw i’n gyffrous i sefyll fel ymgeisydd Islwyn yn y Senedd Ieuenctid.

Dw i’n credu ei bod hi wir yn bwysig gwrando ar leisiau pobl ifanc heddiw er mwyn siapio’r dyfodol, a dw i wedi ymrwymo i fod yn gynrychiolydd cryf ar gyfer ein cenhedlaeth yn Islwyn.

Dw i wedi bod yn aelod o’r Cyngor Ysgol ers 3 blynedd ac wedi chwarae rhan allweddol mewn penderfyniadau sydd wedi arwain at newidiadau positif i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Islwyn. Ar hyn o bryd, dw i’n Brif Ddisgybl Ysgol Uwchradd Islwyn ac wedi mwynhau gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethwyr a rhieni er mwyn cael effaith bositif ar yr ysgol. Dw i’n angerddol dros sicrhau newid go iawn a pharhaus.

Gyda’ch cymorth chi, byddaf i’n llais penderfynol a chryf yn y Senedd Ieuenctid yn amlygu ein hawliau, ein dyfodol a’n gwerthoedd.

Diolch yn fawr i chi am eich amser.

Cofion cynnes,
Oliver Pask – Ymgeisydd ar gyfer y Senedd Ieuenctid