Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ruby Elizabeth Gregg

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

The Housing Crisis / Yr Argyfwng Tai

Mater o Bwys 2

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 3

The Welsh Language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

Shwmae, I am applying to be a welsh youth parliament member as I’d like to be a voice for young people and help make a difference. I have a few ideas on how to consult with young people in my area and ensure that their voices are heard so we can make a difference. Mainly, I would like to create a website that allows people to submit complaints or concerns. I would promote this site via posters placed around public areas such as community buildings or via a social media page such as facebook and or TIktok. I believe you should vote for me as I am very confident and determined, I have been an active member of the community for most of my life, 5 of which i spent as a girlguide starting at rainbows and rising to guides, during this time i learnt many lessons of teamwork and inclusivity which i believe are vital characteristics for this role. Currently I’m a part of the Army Cadets where I've learnt the values of discipline, professionalism and respect. Thank you for your consideration.

DATGANIAD YMGEISYDD

Shwmae, dw i’n ymgeisio i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau bod yn llais i bobl ifanc a helpu gwneud gwahaniaeth. Mae gen i rai syniadau ar sut i drafod gyda phobl ifanc yn fy ardal a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth. Yn bennaf, dw i eisiau creu gwefan ble gall pobl gyflwyno cwynion neu bryderon. Bydden i'n hyrwyddo’r wefan drwy bosteri mewn mannau cyhoeddus fel adeiladau cymunedol neu dudalen ar y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu TikTok. Dw i’n credu y dylech chi bleidleisio drosof fi oherwydd dw i’n hyderus a phenderfynol iawn, dw i wedi bod yn aelod o’r gymuned drwy gydol fy mywyd. Ro’n i’n aelod o’r Girl Guides am 5 blynedd, yn dechrau yn Rainbows cyn symud ymlaen i’r Guides. Yn ystod y cyfnod hwn dysgais lawer o wersi o ran gwaith tîm a chynhwysiant, sy’n hollbwysig i’r rôl yn fy marn i. Ar hyn o bryd, dw i’n aelod o Gadetiaid y Fyddin lle dw i wedi dysgu am ddisgyblaeth, proffesiynoldeb a pharch. Diolch yn fawr am ystyried fy nghais.