Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Clementine Raine Cunningham

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Support for Chronic illness / Salwch ar gyfer cyflyrau cronig

Mater o Bwys 2

Accessible public transport / Trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch

Mater o Bwys 3

Healthier food in Schools / Bwyd iachach mewn ysgolion

DATGANIAD YMGEISYDD

I don't want to be a part of the youth parliament to look good on my CV, but because I have always wanted to make a positive difference in someone's life. I have been part of my schools council for two years, helping pursue many changes for the school, including creating a uniform swap shop for those who cannot afford new uniforms. I have become a confident public speaker, attending Swansea council events advocating for children's rights. To ensure I have heard peoples ideas, I would take advantage of my school's pupil voice to report back to youth parliament. My extracurriculars, like county orchestra, allow me to take on ideas from students outside of my school.
I am someone who can listen to everyone, proactively advocating for something that I’m passionate about until it's sorted. I would make a great candidate and look forward to making a positive difference. I have experience in advocating, including for children's rights and have many ideas on how to get everyone's voices heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i ddim eisiau bod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid i gael rhywbeth sy’n edrych yn dda ar y CV. Dw i eisiau bod yn aelod oherwydd dw i wastad wedi bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall. Dw i wedi bod ar y cyngor ysgol ers dwy flynedd, yn helpu i newid pethau yn yr ysgol, gan gynnwys creu siop gyfnewid gwisg ysgol i’r rhai sy’n methu fforddio gwisgoedd newydd. Dw i wedi dod yn siaradwr cyhoeddus hyderus, yn mynd i ddigwyddiadau Cyngor Abertawe yn eirioli dros hawliau plant. Er mwyn gwneud yn siŵr fy mod wedi clywed syniadau pobl eraill, bydden i’n manteisio ar lais y disgybl fy ysgol i roi adborth i’r Senedd Ieuenctid. Mae fy ngweithgareddau y tu allan i’r ysgol, fel cerddorfa’r sir, yn rhoi cyfle i mi gael syniadau gan bobl y tu allan i’r ysgol. Dw i’n rhywun sy’n gallu gwrando ar bawb, ac eirioli’n rhagweithiol dros rywbeth nes ei fod wedi’i ddatrys. Byddwn i’n ymgeisydd gwych a dw i’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth positif. Mae gen i brofiad mewn eirioli, gan gynnwys hawliau plant ac mae gen i lawer o syniadau ar sut i wneud yn siŵr bod lleisiau pawb yn cael eu clywed.