Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Sophie Hirst
The environment / Yr amgylchedd
Equality for all / Cydraddoldeb i bawb
Young carer support / Cymorth i ofalwyr ifanc
I’d like to be involved in WYP for many reasons; young people are marginalised and overlooked. Wales’ youth voice has the potential to be more powerful than ever and ensuring that we are represented is vital. I am a voice for my community, a voice for Swansea, but mainly, a voice for Wales.
I’ve had an increasing interest in politics since the pandemic due to global affairs: the catalyst for my desire to make a difference. After starting A-Level Law, my interest has grown, and my aspiration to improve my community is now strongly embedded in my core beliefs.
The topics above are ones that are deeply rooted in my personal life, giving me utmost experience and knowledge possible. I’m conscious about the environment, have a firm familiarity with hidden disabilities as well as having an initiative for equality in its entirety.
I’m passionate, driven and know I have what it takes to be involved in working towards resolving issues for the better of my community.
Vote for me. Vote for Wales.
Dw i eisiau bod ynghlwm wrth WYP am sawl rheswm; mae pobl ifanc yn cael eu rhoi ar yr ymylon ac yn cael eu hanwybyddu. Mae gan lais pobl ifanc Cymru y potensial i fod yn fwy pwerus nag erioed ac mae sicrhau ein bod yn cael ein cynrychioli yn hanfodol. Dw i’n llais i fy nghymuned, yn llais i Abertawe ond yn fwy na hynny, yn llais i Gymru. Dw i wedi dangos mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ers y pandemig oherwydd materion byd-eang: y catalydd i fy awydd i wneud gwahaniaeth. Ar ôl dechrau astudio’r Gyfraith ar Lefel A, mae fy niddordeb wedi tyfu, a’r dyhead i wella’r gymuned yn rhywbeth dw i’n credu’n gryf iawn ynddo.
Mae’r pynciau uchod yn rhai sy’n bwysig i fy mywyd personol, gan roi’r profiad a’r wybodaeth gorau posib. Dw i’n poeni am yr amgylchedd, dw i’n gyfarwydd iawn gydag anableddau cudd a cheisio sicrhau cydraddoldeb bob amser. Dw i’n angerddol, yn frwdfrydig ac yn gwybod bod gen i beth sydd ei angen i weithio ar ddatrys problemau er budd fy nghymuned.
Pleidleisiwch drosof fi. Pleidleisiwch dros Gymru.