Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Freya Lili Jones
Opportunities for young people/Cyfleoedd i bobl ifanc
Mental health/Iechyd meddwl
Our environment/Ein hamgylchedd
I have thought over and over why I want to be a Welsh Youth Parliament Member . But if I'm being honest I want to be a Welsh Youth Parliament Member as I want to help young people in Wales .I want to prove to them that there is more to life .That your dreams shouldn't be disregarded because of where you live .I feel passionately about helping people in Wales.
I believe that people should vote for me as I am willing to listen to other people's suggestions , am understanding but also assertive when talking about issues we face. I will ensure that your voice is heard .Three things I am passionate about are Opportunities , Mental Health and the Environment.
I also think you should consider voting for me as I have experience in media , therefore I could work well to market our ideas on social media to gain support from young people across Wales.
I will explore several ideas to make Wales the best version of itself It can be.
Rydw i wedi meddwl drosodd a throsodd pam fy mod eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru . Ond os ydw i’n bod yn onest rydw i eisiau bod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod i eisiau helpu pobl ifanc Cymru. Rydw i eisiau profi iddyn nhw bod mwy i fywyd. Na ddylai eich breuddwydion gael eu diystyru oherwydd ble rydych chi'n byw. Rwy'n teimlo'n angerddol dros helpu pobl yng Nghymru.
Rwy’n credu y dylai pobl bleidleisio i fi gan fy mod yn fodlon gwrando ar awgrymiadau pobl eraill, yn cynnig dealltwriaeth ond hefyd yn bendant wrth sôn am y materion sy’n ein hwynebu. Byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Tri pheth rwy’n angerddol yn eu cylch yw cyfleoedd, iechyd meddwl a'r amgylchedd.
Rydw i hefyd yn meddwl y dylech ystyried pleidleisio i mi gan fod gen i brofiad yn y cyfryngau, felly gallwn i weithio'n dda i farchnata ein syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael cefnogaeth gan bobl ifanc ledled Cymru.
Byddaf yn archwilio llawer o syniadau i wneud Cymru y fersiwn orau ohoni'i hun y gall fod.