Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Chelsea Collo

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Healthcare/Gofal iechyd

Mater o Bwys 3

Environment/Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Chelsea and i would like to be part of the welsh youth parliament,
I would like to help around the community to keep the living eniroment clean and safe for people of wales.
I will help with getting voices of young people across to the parliament so everyone has a chance to have their voice heard by the important people of wales. I think people should vote for me because i would help with making sure people of wales are getting their chance to have their voice heard so we can see other people's point of views so we know what they would like to happen to make their life any better. I also think that the healthcare is very important to people to make sure that people are safe and healthy.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Chelsea a hoffwn i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru.
Hoffwn i helpu o amgylch y gymuned i gadw'r amgylchedd byw yn lân ac yn ddiogel i bobl Cymru.
Byddaf yn helpu i gyfleu lleisiau pobl ifanc i’r senedd fel bod pawb yn cael cyfle i leisio’u barn i bwysigion Cymru. Rwy’n meddwl y dylai pobl bleidleisio drosof oherwydd byddwn i’n helpu i wneud yn siŵr bod pobl Cymru’n cael cyfle i leisio’u barn fel y gallwn weld safbwyntiau pobl eraill a gwybod beth yr hoffent ei weld yn digwydd i wneud eu bywydau’n well. Rydw i hefyd yn meddwl bod gofal iechyd yn bwysig iawn i bobl i wneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel ac yn iach.