Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Awen Grug Hogg
The Arts in Education/Y celfyddydau mewn addysg
Promoting the Welsh Language/Hyrwyddo'r Gymraeg
Enviroment issues/Materion amgylcheddol
My name is Awen Hogg. I am 12 years old and a pupil at Ysgol Maes Garmon in Mold. I am keen to be a member of the Welsh Youth parliament using my voice to make a difference to the future of young people in Wales. I have been voted a member of my school council for the past 4 years and have enjoyed working as part of a team on influencing matters important to us.I now feel that I would like to broaden my horizons and it would be a privilege to represent the young people of Delyn on a National level. My main focus would be on Education, in particular, being a voice for endangered subjects such as the arts. Another priority for me would be the Environment and our part in securing change. I am a fluent Welsh speaker and being Welsh is extremely important to me. I would work together in promoting the Welsh language and the opportunities it brings.
I am a confident public speaker and have the ability to listen and form a balanced opinion. I am fair, approachable and promise to give my best.
Fy enw i yw Awen Hogg. Rwy’n 12 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug. Rwy’n awyddus i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan ddefnyddio fy llais i wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl ifanc Cymru. Rwyf wedi cael fy ethol yn aelod o fy nghyngor ysgol am y 4 blynedd diwethaf ac wedi mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ddylanwadu ar faterion sy’n bwysig i ni. Teimlaf yn awr yr hoffwn ehangu fy ngorwelion a byddai’n fraint cael cynrychioli pobl ifanc Delyn ar lefel genedlaethol. Fy mhrif ffocws fyddai addysg, yn arbennig bod yn llais ar bynciau sydd mewn perygl fel y celfyddydau. Blaenoriaeth arall i mi fyddai’r amgylchedd a’n rhan ni yn sicrhau newid. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae bod yn Gymraes yn hynod bwysig i mi. Byddwn yn cydweithio i hyrwyddo’r Gymraeg a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig.
Rwy’n siaradwr cyhoeddus hyderus ac mae gen i’r gallu i wrando a ffurfio barn gytbwys. Rwy'n deg, mae’n hawdd siarad â mi, ac rwy’n addo rhoi fy ngorau.