Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Benjamin Thomas Harris
Transport/Trafnidiaeth
Healthcare/Gofal iechyd
Education/Addysg
How often has your train been delayed or cancelled? How often has a loved one had to wait for important medical care? How often have you been told that your school can’t do something because “we don’t have the money”? Young people in Delyn face these issues everyday and I intend to raise awareness of that in Cardiff.
I have served on my school council for a number of years, one as chair. I learned how to represent my community in issues such as toilet access, canteen quality, and behaviour policy. If you vote for me you will get a confident voice in Cardiff.
I hold strong political views, but I am still able to work with people who I disagree with. No matter who you are, I will make your voice heard.
I am not some average politician. My family has no background in politics. However I am determined to represent the young people of Delyn on the issues that matter to us - particularly transport, education, and healthcare which are very important in our often forgotten corner of Wales.
Pa mor aml mae eich trên wedi cael ei ohirio neu ei ganslo? Pa mor aml mae rhywun annwyl i chi wedi gorfod aros am ofal meddygol pwysig? Pa mor aml ydych chi wedi clywed bod eich ysgol yn methu gwneud rhywbeth oherwydd “dyw’r arian ddim ar gael”? Mae pobl ifanc Delyn yn wynebu hyn bob dydd ac rwy’n bwriadu codi ymwybyddiaeth am hynny yng Nghaerdydd.
Rwyf wedi gwasanaethu ar fy nghyngor ysgol ers nifer o flynyddoedd, gydag un fel cadeirydd. Dysgais i sut i gynrychioli fy nghymuned mewn materion fel mynediad i doiledau, ansawdd ffreutur, a pholisi ymddygiad. Os byddwch yn pleidleisio i mi fe gewch chi lais hyderus yng Nghaerdydd.
Mae gen i safbwyntiau gwleidyddol cryf, ond rwy’n dal i allu gweithio gyda phobl rwy’n anghytuno â nhw. Waeth pwy ydych chi, byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Nid gwleidydd cyffredin mohonof. Nid oes gan fy nheulu unrhyw gefndir mewn gwleidyddiaeth. Serch hynny, rwy’n benderfynol o gynrychioli pobl ifanc Delyn ar y materion sydd o bwys i ni – yn enwedig trafnidiaeth, addysg, a gofal iechyd, sy’n bwysig iawn yn ein cornel ni o Gymru sy’n aml yn cael ei hanghofio.