Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Maja Zamirska
Cost/funding for universities/Cost/cyllid ar gyfer prifysgolion
Lower level of education/Lefel is o addysg
Healthcare for children/youth / Gofal iechyd i blant/pobl ifanc
I'd be a valuable WYPM member because I like to help people; I fundraise for Cafod and other charities in my school, I'm in the student council and I'm a buddy, helping the new Year 7 students. I have many leadership qualities; I am very confident and enjoy helping others at any opportunity. I take part in many school and extracurricular activities such as swimming, grade 5 guitar, band and church group. As well as full time education in Wales, I attend online Polish school which gives me wider views on the education system and what we can improve. I want to be a WYPM because I wish for people my age in Wales to have the same opportunities as people my age in Poland who receive a higher level of education, better medical access and a free university which is funded by taxes. I will consult with young people in my area by holding meetings in schools and clubs that I attend. I will ask for their opinions on what they want to improve to lead to a better quality of life for all.
Byddwn i’n aelod gwerthfawr o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn hoffi helpu pobl; rwy'n codi arian i Cafod ac elusennau eraill yn fy ysgol, rwy’n aelod o’r cyngor myfyrwyr ac yn gyfaill, yn helpu myfyrwyr newydd yn Mlwyddyn 7. Mae gen i lawer o rinweddau arweinyddiaeth; rwy'n hyderus iawn ac yn mwynhau cymryd unrhyw gyfle i helpu eraill. Rwy'n cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ysgol ac allgyrsiol fel nofio, gitâr gradd 5, band a grŵp eglwys. Yn ogystal ag addysg amser llawn yng Nghymru, rwy’n mynychu ysgol Bwylaidd ar-lein sy’n rhoi barn ehangach i mi ar y system addysg a’r hyn y gallwn ei wella. Hoffwn i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn dymuno i bobl fy oedran yng Nghymru gael yr un cyfleoedd â phobl yr un oedran â fi yng Ngwlad Pwyl sy'n cael lefel uwch o addysg, gwasanaethau meddygol gwell ac addysg brifysgol am ddim sy'n cael ei hariannu gan drethi. Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy gynnal cyfarfodydd mewn yn yr a’r clybiau rwy’n eu mynychu. Byddaf yn gofyn am eu barn ar yr hyn y maent am ei wella i arwain at ansawdd bywyd gwell i bawb.