Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Nia-Jane Hinds
Paying £95 to get to school/Talu £95 i gyrraedd yr ysgol
Not enough CAHMS around/Dim digon o wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ar gael
Not a lot of teachers/Dim llawer o athrawon
The youth parliament is very important to me and i would love to be a part of tour work, I would be a valuable addition to the youth parliament because I have great listen skills and i am very emphatic. I would love to be apart of the youth parliament for flint and Flintshire, I am already part of the school council, and i would love to develop my skills and career. Having three younger sisters has taught me patience, multitasking and responsibility. I am a confident speaker; I'm very inquisitive and enjoy sharing my ideas through collaborative discussion. I would love to get involved with the youth parliament work on climate change, children's wellbeing and education; I would also love to see more work on getting more recycling bins into school and improving children's wellbeing. I would love to be the voice for the pupil of Flintshire, i am approachable therefore would be a great candidate for the youth parliament of Wales.
Mae’r Senedd Ieuenctid yn bwysig iawn i mi a byddwn wrth fy modd yn bod yn rhan o’r gwaith. Byddwn yn ychwanegiad gwerthfawr i’r Senedd Ieuenctid oherwydd mae gennyf sgiliau gwrando gwych ac rwy’n bendant iawn. Byddwn wrth fy modd yn bod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid ar gyfer y Fflint a Sir y Fflint, rwyf eisoes yn rhan o’r cyngor ysgol, a byddwn wrth fy modd yn datblygu fy sgiliau a’m gyrfa. Mae’r ffaith bod gen i dair chwaer iau wedi dysgu i mi sut i fod yn amyneddgar, sut i amldasgio a sut i fod yn gyfrifol. Rwy’n siaradwr hyderus; rwy'n chwilfrydig iawn ac yn mwynhau rhannu fy syniadau drwy drafodaeth gydweithredol. Byddwn wrth fy modd yn cymryd rhan yng ngwaith y Senedd Ieuenctid ar newid hinsawdd, llesiant plant ac addysg; byddwn i hefyd wrth fy modd yn gweld mwy o waith ar gael mwy o finiau ailgylchu mewn ysgolion a gwella llesiant plant. Byddwn wrth fy modd yn bod yn llais i ddisgyblion Sir y Fflint, mae’n hawdd dod i siarad â mi, felly byddwn yn ymgeisydd gwych ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.