Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Lily Efa Smith

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Self-esteem and confidence/Hunan-barch a hyder

Mater o Bwys 2

Vandalism in public places/Fandaliaeth mewn mannau cyhoeddus

Mater o Bwys 3

Air pollution-Underage Vaping/Llygredd aer – fepio dan oed

DATGANIAD YMGEISYDD

I want to be the newest member of the powerful Welsh Youth Parliament, to speak the truth , make a positive impact and ensure we live in a Country where the right thing and fairness counts.
I will consult with young people in my area by attending events, conducting social media polls and being contactable.
I will represent different groups, and their voices will be heard through me! I am reliable, trustworthy and have a sociable personality!
I value different perspectives and can listen. People will open up to someone their own age without it being awkward. I am willing to stand up for what I believe in and will speak my opinion truthfully.
I am willing to talk in front of others and have performed on stage. I have raised awareness of the Welsh language through public speaking and speak Welsh confidently. I represent the power to change from a young age. Vote for me because I want our issues to be addressed. This will make our future in Wales a cleaner, safer and happier place.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn i fod yr aelod mwyaf newydd o sefydliad pwerus Senedd Ieuenctid Cymru, i siarad y gwir, cael effaith gadarnhaol a sicrhau ein bod yn byw mewn gwlad lle mae'r peth iawn a thegwch yn cyfrif.
Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy fynd i ddigwyddiadau, cynnal polau cyfryngau cymdeithasol a bod yn hawdd cysylltu â mi.
Byddaf yn cynrychioli gwahanol grwpiau, a bydd eu lleisiau yn cael eu clywed trwof fi! Rwy'n ddibynadwy, ac rwy’n berson cymdeithasol!
Rwy'n gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol ac rwy’n gallu gwrando. Bydd pobl yn agored i rywun eu hoedran eu hunain heb i bethau fod yn lletchwith. Rwy'n barod i sefyll dros yr hyn rwy'n ei gredu a byddaf yn rhannu fy marn yn onest.
Rwy'n fodlon siarad o flaen eraill ac wedi perfformio ar lwyfan. Rwyf wedi codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg drwy siarad yn gyhoeddus a siarad Cymraeg yn hyderus. Rwy'n cynrychioli'r pŵer i newid o oedran ifanc. Pleidleisiwch i mi oherwydd rwyf am i'n materion gael sylw. Bydd hyn yn gwneud ein dyfodol yng Nghymru yn lle glanach, mwy diogel a mwy hapus.