Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Miley Jayne Stevens

Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Mental Health Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 3

Environment/Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

I think I would be a good candidate for the Youth Parliament in Wales because I believe everyone should have a voice in issues they believe are important. I would also like to join the Youth Parliament because it could help me gain personal skills I could use in my future and maybe help others gain similar skills. One cause I am passionate about is Mental Health. I believe everyone should get a chance to improve their Mental Health and have help whilst doing so. Another cause I believe matters is Education. Education sets us up for the future, it gives us the skills we need when facing certain challenges and I believe everyone should get a chance at an education. I also care about global issues such as climate change, human rights, and equality. I believe we aren’t treating the environment as we should and how it's having a massive impact on the weather. We all should be treated the same, no matter where we come from, what gender we are and our race.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy'n meddwl y byddwn i'n ymgeisydd da ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy'n credu y dylai pawb gael llais yn y materion sy'n bwysig yn eu barn nhw. Hoffwn hefyd ymuno â’r Senedd Ieuenctid oherwydd gallai fy helpu i ennill sgiliau personol y gallwn i eu defnyddio yn y nyfodol ac efallai helpu eraill i ennill sgiliau tebyg. Un achos rwy'n angerddol amdano yw iechyd meddwl. Rwy'n credu y dylai pawb gael cyfle i wella eu hiechyd meddwl a chael help wrth wneud hynny. Achos pwysig arall yn fy marn i yw addysg. Mae addysg yn ein paratoi ar gyfer y dyfodol ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnom wrth wynebu rhai heriau, ac rwy’n credu y dylai pawb gael cyfle mewn addysg. Rydw i hefyd yn poeni am faterion byd-eang fel newid hinsawdd, hawliau dynol, a chydraddoldeb. Rwy'n credu nad ydym yn trin yr amgylchedd fel y dylem a bod hyn yn cael effaith aruthrol ar y tywydd. Dylem ni i gyd gael ein trin yr un fath, waeth o ble rydyn ni'n dod, beth yw ein rhywedd a'n hil.