Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Daisy Jane Gibbonns

Mater o Bwys 1

Environment / Yr amgylchedd

Mater o Bwys 2

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 3

Housing / Tai

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi my name is Daisy Gibbons,I am a year 8 student at Ysgol Bryn Elian. With a passion for leadership, communication and making a positive impact. I'm confident speaking to an audience and love presenting ideas clearly and effectively. As a good listener with strong organizational skills, I excel in both academics and extra curricular activities. I've earned my black sash in Chinese kickboxing, which has taught me discipline and resilience. As an aspiring Youth Parliament member, I believe I can represent your voice, and together, we can bring about positive change. Vote for me because I have the leadership skills, confidence and drive to make a difference for all of us and to the place we all live and enjoy WALES!

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, fy enw i yw Daisy Gibbons, dw i’n ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Bryn Elian. Dw i’n angerddol dros arweinyddiaeth, cyfathrebu a chael effaith bositif. Dw i’n hyderus yn siarad o flaen cynulleidfa ac wrth fy modd yn cyflwyno syniadau yn glir ac yn effeithiol. Fel rhywun sy’n dda am wrando a rhywun gyda sgiliau trefnu da, dw i’n rhagori mewn gweithgareddau academaidd ac allgyrsiol. Dw i wedi cael sash du mewn bocsio cic Tsieineaidd, sydd wedi fy nysgu i fod yn wydn a dangos disgyblaeth. Fel rhywun sydd eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, dw i’n credu fy mod i’n gallu cynrychioli eich llais, a gyda’n gilydd, byddwn ni’n gallu arwain at newid positif. Pleidleisiwch drosof fi oherwydd mae gen i’r sgiliau arwain, yr hyder a’r awydd i wneud gwahaniaeth i bob un a ble rydyn ni’n byw, sef CYMRU!