Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Lukas Patrick Leisinger

Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 2

Mental health services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 3

Housing / Tai

DATGANIAD YMGEISYDD

I believe I have a good attitude towards people's opinions and can make a positive change to the issues Wales is facing. I will consult with youths in my area by setting up youth councils and forums to meet regularly to discuss issues they are passionate about. I will conduct surveys and polls to gather information on various topics in order to understand young people's opinions, this can be done in person, remotely and if desired, anonymously. I am passionate about people and I'm willing to work together as a team to reach our goals as I understand it takes a team to make a difference. I think I would make a good youth parliament member as I am a confident and positive person with a great outlook. I can show empathy and understanding to others. I was a member of my primary school Senedd and attended regular meetings to discuss various issues and for this, time keeping, independent and group work was important. I am a hard worker with my current grades at school reflecting this.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n credu bod gen i agwedd dda o ran barn pobl ac yn gallu gwneud gwahaniaeth positif o ran y problemau mae Cymru yn eu hwynebu. Dw i’n bwriadu cysylltu gyda phobl ifanc yn fy ardal drwy greu cynghorau ieuenctid a fforymau i gwrdd yn rheolaidd i drafod pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Dw i am redeg arolygon a phleidleisiau i gasglu gwybodaeth ar bynciau amrywiol er mwyn deall barn pobl ifanc. Bydd hyn yn gallu digwydd wyneb yn wyneb, o bell neu’n ddienw. Dw i’n angerddol dros bobl ac yn barod i gydweithio fel tîm i gyflawni ein targedau oherwydd dw i’n deall y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dw i’n meddwl y bydden i’n aelod da o’r Senedd Ieuenctid oherwydd dw i’n berson hyderus a phositif gydag agwedd dda. Dw i’n gallu dangos empathi a dealltwriaeth i eraill. Roeddwn i’n aelod o Senedd yr ysgol gynradd ac es i gyfarfodydd rheolaidd i drafod materion amrywiol. Roedd cadw amser, bod yn annibynnol a gwaith grŵp yn bwysig i hyn. Dw i’n gweithio’n galed ac mae fy ngraddau ysgol yn dangos hyn.